Mae Gorsaf Dân y Maendy yn gwasanaethu cymunedau ar ochr ddwyreiniol Casnewydd yn cynnwys Ringland, Alway a Somerton.
Mae llawer o adeiladau diwydiannol wedi eu lleoli o fewn ardal yr Orsaf, yn cynnwys safle cemegol Solutia, cyflenwyr silindrau nwy Flogas a nifer o westai mawr.
41 o staff gwisg yn cynnwys 4 Gwylfa o 10 (Coch, Glas, Gwyrdd a Gwyn) a Phennaeth Gorsaf.
Adeiladwyd Gorsaf Dân y Maendy yn hwyr yn y 1950au ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ym 1960. Fe’i hadeiladwyd ar safle a fomiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 2002 dadorchuddiwyd plac i nodi’r achlysur hwn.