Mae Gorsaf Dân Mynydd Cynffig yn gwasanaethu ardal Y Pîl, Mynydd Cynffig, Cefncribwr, Corneli a Phwll Cynffig gyda phoblogaeth o tua 16,000 ac yn cwmpasu ardal o tua 10 milltir sgwâr, ynghyd â’r ardaloedd amgylchynol, sef Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr ac ar draws y goror i’r canolbarth a’r gorllewin, cyn belled â Phort Talbot.
Mae’r Orsaf Dân wedi’i lleoli oddi ar Heol Ffald yn Y Pîl ac mae o fewn milltir i Draffordd yr M4 sy’n caniatáu mynediad cyflym at gyffordd 37 Y Pîl, 36 Sarn a chyffordd 38 Margam. Mae’r brif reilffordd o Abertawe i Lundain yn rhedeg trwy ardal yr Orsaf.
Mae gan Fynydd Cynffig ystod amrywiol o ddiwydiannau, busnesau, canolfan hamdden ac eiddo preswyl yn ei ardal, sy’n helaethu’n gyson. Mae gan bentref Corneli ddatblygiad tai mawr newydd sy’n cynnwys oddeutu 300 eiddo.
15 Diffoddwr System Dyletswydd Rhan Amser1 Pennaeth Gorsaf1 Cynorthwyydd Gweinyddol
Mae’r Orsaf Dân oddeutu 30 mlwydd oed.