Mae Gorsaf Dân Glyn Rhedynog yn gwasanaethu ystod amrywiol o ddiwydiannau ysgafn a thrwm. Mae ardaloedd busnes a phreswyl, saith cartref i’r hen, cartref nyrsio i’r difrifol o anabl, adeiladwaith heol mawr a ffatrïoedd cemegol i gyd yn ei hardal.
13 Diffoddwr System Dyletswydd Rhan Amser1 Cynorthwyydd Gweinyddol
Agorwyd Gorsaf Dân Glyn Rhedynog yn swyddogol ar 1 Tachwedd 1976.
Mae gan Orsaf Dân Glyn Rhedynog dîm rhyddhau rhag gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sydd wedi hyfforddi i safon uchel ac wedi dod yn 19eg yn y byd allan o 52 tîm ym Mhrâg yn 2003 ac yn 13eg yn y byd yn Ottawa yng Nghanada yn 2004, allan o 55 tîm. Mae’r tîm newydd gystadlu (Mehefin 2006) yng nghystadleuaeth ranbarthol a rhyngorsafol Cymru a daethon nhw’n 3ydd allan o 9 tîm.