Mae Gorsaf Dân Gymunedol Trélai’n gwasanaethu ardaloedd preswyl Glanelái, Caerdydd ac ardaloedd Gogledd Llandaf, Canton, Tyllgoed, Pentrebane a Sain Ffagan oddi amgylch. Mae tua 29,700 o eiddo domestig dros ardal ddaearyddol o ryw 5,551 hectar. Amcangyfrifir bod poblogaeth yr ardal tua 69,000 o bobl.
Ymatebodd eich Ymladdwyr Tân lleol o Orsaf Dân Trélai i fwy na 1295 o alwadau yn y flwyddyn Ebrill 2006 - Ebrill 2007, gan amrywio o Wrthdrawiadau Trafnidiaeth Ffordd, tanau cerbydau, i danau mewn cartrefi. Sicrhaodd ymroddiad eich criwiau lleol fod pob achos yn cael ei drin yn broffesiynol ar bob adeg. Yn ogystal ag ymateb i alwadau, ymwelodd eich ymladdwyr tân lleol â 634 o gartrefi lle gosodwyd larymau tân yn rhad ac am ddim a rhoddwyd cyngor i bob aelod o’n cymuned. Ymwelodd eich Ymladdwyr Tân lleol â 35 o ysgolion yn yr ardal gan addysgu’r plant ynglŷn â pheryglon tân. Sicrhaodd ymdrechion aruthrol yr ymladdwyr tân fod nifer y tanau damweiniol mewn eiddo preswyl wedi lleihau’n sylweddol o 48 yn 2005 i 39 yn 2006, a bydd criwiau’n gweithio gyda’n cymunedau i sicrhau bod y tueddiad hwn yn parhau ar i lawr a bod pawb yn ein cymuned yn ddiogel rhag tân.
Os bydd arnoch angen unrhyw gyngor ynglŷn â diogelwch tân, eisiau gosod larymau mwg yn eich cartref, neu os ydych yn grŵp cymunedol lleola fyddai’n elwa o’n hadnoddau yna cysylltwch â Phennaeth yr Orsaf, Brian Thompson, ar 01443 232640.