Ymatebodd criwiau gorsaf dân gymunedol Duffryn i dros 600 o alwadau yn ystod 2007/08, yn amrywio o danau masnachol a domestig i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd a galwadau gwasanaethau arbennig eraill ac achub anifeiliaid. Mae’r criwiau yn hyfforddi’n ddyddiol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu delio â phob galwad i fynychu digwyddiadau ac i wasanaethu’r gymuned leol ac ardaloedd eraill mewn ffordd effeithlon a phroffesiynol.
Yn ogystal â mynychu digwyddiadau yn ystod 2007/08, ymwelodd gorsaf dân gymunedol Duffryn â dros 500 o gartrefi er mwyn gosod larymau mwg a chynnig cyngor diogelwch tân yn y cartref. Y rheswm y tu ôl i’r gwasanaeth hwn, sydd yn rhad ac am ddim, yw ceisio lleihau’r nifer o ddigwyddiadau mewn cartrefi yr ydym yn eu mynychu ac i wneud pobl yn fwy diogel yn eu hamgylchedd eu hunain. Y brif ymgyrch addysgiadol arall yr ydym yn ei gweithredu yw ymweld â phob ysgol yn y gymuned er mwyn trafod diogelwch tân gyda phlant blynyddoedd 2 a 5.
Mae gan Orsaf Dân Gymunedol Duffryn ystafell gymunedol arbennig sydd ar gael i bobl ei defnyddio ac i ymweld â ni er mwyn gweld beth mae’r ymladdwyr tân lleol yn ei wneud.
Os oes angen unrhyw gyngor diogelwch arnoch neu os hoffech i ni osod larymau tân yn rhad ac am ddim, ffoniwch 01633 815002 os gwelwch yn dda.
28 o ymladdwyr tân llawn amser (7 gweithiwr i bob sifft), 4 sifft yn darparu dyletswydd tân 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rheolwr yr Orsaf sydd â chyfrifoldeb llwyr dros yr orsaf.
Adeiladwyd yr orsaf yn wreiddiol ym 1980, gan griwio yn ystod y dydd gyda dim ond 2 sifft (Coch a Gwyn) a chyfanswm personél o 14. Adeiladwyd estyniad ym 1999 er mwyn darparu dyletswydd tân llawn amser.