Mae Gorsaf Dân Cwmbrân yn gwasanaethu tref Cwmbrân a phentrefi Llanfrechfa a Phonthir o’i hamgylch. Amcangyfrif poblogaeth yr ardal yw 50,000, dros ardal o 2,000 hectar.
Mae Gorsaf Dân Cwmbrân yn gwasanaethu ystod o ddiwydiannau, busnesau ac ardaloedd preswyl, ynghyd â pharc adwerthu mawr, canolfan y dref sy’n dal i ehangu, stadiwm chwaraeon a chanolfan hamdden.
46 o staff gwisg yn cynnwys 4 Gwylfa o 7 (Coch, Gwyrdd, Glas, Gwyn), 17 o Ymladdwyr Tân ar y System Ddyletswydd Ran Amser a Phennaeth Gorsaf.
Agorwyd yr Orsaf ym 1974. Ychwanegwyd dwy gilfach newydd ym 1992.