Mae’r orsaf hefyd yn ymateb fel yr ail gerbyd i alwadau yn ardal Cil-y-coed, yn ogystal ag ymateb i alwadau yn Swydd Gaerloyw yn ardaloedd Sedbury, Tutshill a Tiddenham.
Mae Gorsaf Dân Cas-gwent yn gweithredu dau gerbyd llinell flaen; Ysgol Ddŵr safonol, a Thendr Achub Pwmp sy’n cludo offer achub gwell yn bennaf i’w ddefnyddio mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Mae’r cerbyd hwn hefyd yn gweithredu fel cerbyd pwmpio wrth gefn ac yn cludo criw o bum ymladdwr tân.
Ar gyfartaledd, mae cerbydau’r orsaf yn mynd i oddeutu 350 o alwadau argyfwng y flwyddyn.
Mae gan yr orsaf griw o un wylfa o 18 o ymladdwyr tân gweithredol yn gweithio’r System Dyletswydd Rhan Amser (RDS) sy’n cynnig gwasanaeth brys 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn. Hefyd, mae gan yr orsaf gynorthwyydd gweinyddol i gynorthwyo â rheoli’r orsaf.
Ar hyn o bryd, mae gan yr orsaf swyddi gwag i ymladdwyr tân weithio’r System Dyletswydd Rhan Amser (RDS). Os oes diddordeb gennych i fod yn ymladdwr tân yng Nghas-gwent, cysylltwch â’r adran bersonél neu galwch i mewn i’r orsaf ar nos Fawrth rhwng 1830 awr a 2030 awr i gwrdd â’r tîm.
Mae gan yr orsaf ystod amrywiol o risgiau yn ei hardal, gan gynnwys yr M48 a Phont Hafren, y diwydiant trwm/ysgafn a rhwydwaith y rheilffyrdd, gan gynnwys Twnnel Hafren.
Agorodd yr orsaf gyfredol ym 1974.