Gorsaf Dân Caldicot

Gorsaf Dân Caldicot 

Mae Gorsaf Dân Cil-y-coed yn gwasanaethu tref Cil-y-coed, ynghyd â’r pentrefi amgylchynol, sef Rogiet, Porth Sgiwed, Magwyr, Gwndy a Sudbrook.  Mae hi hefyd yn cwmpasu nifer o gymunedau llai ar hyd yr A48, sy’n rhedeg o Gasnewydd i Gas-gwent.  Mae rhai o’r cymunedau hyn yn cyflwyno’u hanawsterau unigol eu hunain oherwydd lleoliad a phroblemau mynediad.  Mae’r Orsaf hefyd yn cynnig gwasanaeth eilaidd i Orsaf 43, Cas-gwent i’r dwyrain a Gorsaf 46, Maendy i’r gorllewin.

Yr ysgol fwyaf yn yr ardal yw Ysgol Gyfun Cil-y-coed, gydag oddeutu 1500 o ddisgyblion, a fwydir gan hyd at 10 ysgol plant iau yn yr ardal.  Mae’r berthynas rhwng yr ysgolion a’r Orsaf Dân yn arbennig o dda gyda gweithgareddau Diogelwch Tân Cymunedol rheolaidd yn cael eu cydlynu.

Y brif risg yw Twnnel Hafren, a gafodd ei adeiladu ym 1886, islaw Aber Afon Hafren, lle mae’r brif linell o Abertawe i Paddington yn rhedeg trwyddo, a’r cysylltiadau rheilffordd cyflym cysylltiedig.  Mae’r rheilffordd yn cludo mathau amrywiol o draffig, gan gynnwys trenau cyflym a threnau â nwyddau peryglus.  Risg fawr arall yn yr ardal yw Ail Groesfan Hafren, a gafodd ei hadeiladu ym 1996.  Y bont yw’r prif lwybr rhwng Cymru a Lloegr ac yn cludo cyfartaledd o 60,000 cerbyd y dydd.

Mentrau Cymunedol

  • Ymgyrchoedd Posteri Tymhorol ar y cyd ag ysgolion lleol
  • Gwylfa Dân
  • Dug Caeredin
  • Ymwybyddiaeth Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd yn yr ysgol uwchradd leol

Staff

Gorsaf sy’n cael ei staffio’n llawn amser yw Gorsaf Dân Cil-y-Coed, gan ddarparu gofal 24 awr gan gynnwys 9 awr o ddyletswydd llawn amser yn yr Orsaf Dân a 15 awr o ddyletswydd rhan amser ar alw. Cyflawnir hyn gyda 2 sifft yn cynnwys 7 ymladdwr tân a phob sifft yn gweithio 96 awr er mwyn sicrhau bod rhywun ar ddyletswydd 365 niwrnod o’r flwyddyn. Mae’r orsaf wedi recriwtio nifer o staff System Dyletswydd Rhan Amser yn ddiweddar fel rhan o’r patrymau gwaith newydd sydd ar waith yn yr orsaf.

Hanes

Yn wreiddiol roedd yr Orsaf yn gweithio Rhan Amser a newidiodd i griwio yn ystod y dydd yn gynnar yn y 1980au.

Useful Links
Dolenni Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 03/10/2011
SWFRS