Mae Gorsaf Dân Caerffili yn gwasanaethu tref brysur Caerffili a phentrefi Llanbradach, Rudry, Machen, Nantgarw a Senghennydd o’i hamgylch.
Mae Gorsaf Dân Caerffili yn gwasanaethu amrywiaeth o ddiwydiannau, busnesau ac ardaloedd preswyl a hefyd yn ymateb yn achos gwrthdrawiadau traffig ffordd ar nifer o briffyrdd yn cynnwys yr A470, A468 a’r A469. Yn ogystal â siopau canol y dref, mae hefyd barc adwerthu mawr, nifer o ysbytai, llawer o ystadau diwydiannol mawr a safle peirianneg at bwrpas atgyweirio maes awyr, a’r cyfan yn ardal yr Orsaf.
Mae Ymladdwyr Tân Ifanc yn cyfarfod bob dydd Mawrth o 18.30 – 21.00 (rhwng 13 – 18 mlwydd oed)
Gosododd Ymladdwyr Tân Caerffili larymau mwg mewn 719 o gartrefi rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2008 gan roi cyflwyniadau Diogelwch Tân i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2 yng Nghaerffili.
Gorsaf Dân Cymuned Caerffili yw’ch gorsaf leol. Os oes angen arnoch unrhyw gyngor diogelwch tân, gosod larymau mwg yn eich cartref, os ydych yn grŵp cymunedol lleol a fyddai’n elwa ar ein hadnoddau, neu os oes diddordeb gennych mewn ymuno â’r Cynllun Ymladdwyr Tân Ifanc, cysylltwch â Phennaeth yr Orsaf, Steve Logan ar 01443 232660.
52 o staff yn eu gwisg yn cynnwys 28 o weithwyr ar System Dyletswydd Llawn Amser ar 4 Gwylfa o 7 (Coch, Glas, Gwyrdd, Coch a Gwyn), a 23 o weithwyr y System Dyletswydd Wrth Gefn a Phennaeth Gorsaf.
Adeiladwyd yr Orsaf wreiddiol yn 1959; ac fe adeiladwyd Gorsaf newydd yn ei lle yn 2002.