Gorsaf Dân Abertyleri

Gorsaf Dân Abertyleri  

Mae Gorsaf Dân Abertyleri yn gwasanaethu tref Abertyleri a phentrefi cyfagos Cwmtyleri, Llanhiledd, Aber-big, Trinant, Blaenau Gwent a Six Bells. Amcangyfrif y boblogaeth yw 21,000 o fewn ardal o tua 11 milltir sgwâr.

Mae Gorsaf Dân Abertyleri yn gwasanaethu amrywiaeth o adeiladau diwydiannol, busnes a phreswyl, yn ogystal â nifer o brif adwerthwyr yng nghanol y dref.

Mentrau Cymunedol

  • Cynnal Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref
  • Gweithio gydag Ysgolion Lleol
  • Gweithgareddau Diogelwch Cymunedol amrywiol eraill 

Staff

Gwylfa System Dyletswydd Rhan Amser gyda 18 personél mewn iwnifform. Mae Rheolwr Gorsaf hefyd wedi’i leoli yn Abertyleri sy’n gyfrifol am Orsafoedd Tân Abertyleri, Blaenau a Brynmawr.

Hanes yr Orsaf

Agorodd Gorsaf Dân Abertyleri am y tro cyntaf yn 1966, wedi’i adeiladau ar hen Gilffordd y Rheilffordd. Mae’r Orsaf wedi ennill gwobrau am ei chynllun anarferol steil chalet.

Roedd yr orsaf yn arfer bod yn gartref i beiriant tân â chriw 24 awr, peiriant tân rhan amser, cerbyd platfform hydrolig a chludwr ewyn. Bellach, mae gan yr orsaf un ysgol ddŵr a cherbyd 4x4 ar gyfer rhannau mynyddog ardal yr orsaf

Yn ystod haf 2005, aeth yr orsaf Ambiwlans lleol yn Aber-big o dan ddŵr oherwydd glaw trwm, ac Abertyleri oedd un o’r Gorsafoedd Tân cyntaf yn Ne Cymru i gynnig llety i bersonél y Gwasanaeth Ambiwlans a’u cerbydau. Bellach mae dau Ambiwlans a Cherbyd Ymateb Cyflym wedi’u lleoli’n barhaus yng Ngorsaf Abertyleri, yn ogystal â’r personél cysylltiedig. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o ran ymgysylltu.

Ym mis Chwefror 2010, newidiodd y system ddyletswydd yng Ngorsaf Dân Abertyleri o fod yn System Criw Dydd i fod yn System Dyletswydd Rhan Amser.

Cyfeiriad

Station Hill
Abertyleri
NP13 1UJ

Trosolwg

Math: Rhan Amser
Y Criw: 18
Cerbydau:
1 x Tendar Ysgol Ddŵr
Tendar Ysgol Ddŵr

1 x Uned Pwmp Ysgafn 4x4
Uned Pwmp Ysgafn 4x4
Useful Links
Dolenni Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 03/10/2011
SWFRS