Ymatebodd eich Criw Tân Lleol yng Ngorsaf Dân Aberdâr i 947 o Alwadau rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2009, yn amrywio o danau glaswellt a Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd i danau mewn eiddo domestig. Sicrhaodd ymroddiad eich criwiau lleol bod y digwyddiadau wedi cael eu datrys mewn modd proffesiynol bob tro.
Yn ychwanegol i ymateb i alwadau, ymwelodd eich ymladdwyr tân lleol â 720 o gartrefi gan osod larymau mwg am ddim a rhoi cyngor i aelodau’n cymuned ‘yn rhad ac am ddim’. Mae targed wedi’i osod ar gyfer y flwyddyn 2009-10 i griwiau gynyddu nifer y cartrefi sy’n derbyn ymweliadau i 994. Ymwelodd ein Hymladdwyr Tân â 29 ysgol yn ein cymuned gan addysgu ein plant am beryglon tân. Bydd criwiau yn gweithio gyda’n cymunedau i sicrhau fod gan bawb fynediad cyfartal at ein gwasanaeth addysg a larymau mwg am ddim, er mwyn sicrhau fod pawb yn ein cymunedau wedi’u diogelu rhag tân.
Gorsaf Gymunedol Aberdâr yw eich Gorsaf leol. Os ydych angen unrhyw gyngor ar ddiogelwch tân, larymau mwg wedi’u gosod yn eich cartref, neu os ydych yn grŵp cymunedol lleol a allai gael budd o’n hadnoddau, yna cysylltwch â Rheolwr yr Orsaf, Jason Evans ar 01443 232 491. Neu, mae modd trefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim ar ein gwefan neu drwy ffonio’r rhif rhadffôn canlynol 0800 169 1234.
45 o staff gwisg yn cynnwys 28 o Ymladdwyr Tân Amser Llawn sy’n gweithio 4 Gwylfa (Coch, Gwyrdd, Glas, Gwyn) ac 17 o Ymladdwr Tân Rhan Amser. Y Rheolwr Gorsaf sy’n gyffredinol gyfrifol.
Mae Gorsaf Dân Aberdâr wedi’i lleoli’n agos i hen dref farchnad Aberdâr yn rhan uchaf Cwm Cynon. Mae’r orsaf yn darparu gwasanaeth tân ar gyfer poblogaeth oddeutu 90,000 mewn ardal o ryw 30 milltir sgwâr. Mae’r wardiau etholiadol canlynol wedi’u cynnwys o fewn yr ardal hon:
Mae Gorsaf Dân Aberdâr wedi bod ar yr un safle ers 1967 ac mae’n gwasanaethu pobl Cwm Cynon o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf. Mae’r orsaf wedi’i lleoli’n agos i ganol y dref, ond mae hefyd yn hawdd cyrraedd priffordd yr A470 i’r de a phriffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd i’r gogledd ohoni.