Cynhelir sesiwn ddamcaniaethol y cwrs mewn Gorsafoedd Tân, ynghyd â mewnbwn 10-15 munud gan Ymladdwyr Tân. Mae Ymladdwyr Tân yn gweld a thrin, fel rhan o’u gwaith bob dydd, ganlyniadau gwrthdrawiadau trafnidiaeth ffyrdd lle mae gyrwyr ifanc, teithwyr a cherddwyr wedi eu lladd mwya’r gofid, neu wedi cael anafiadau difrifol neu wedi eu gadael yn anabl yn sgil gwrthdrawiadau trafnidiaeth ffyrdd.
Mae Ymladdwyr Tân yn pwysleisio’r neges bwysig nad yw gwrthdrawiadau trafnidiaeth ffyrdd yn effeithio ar y rhai sy’n rhan uniongyrchol o’r digwyddiad yn unig. Mae pobl eraill yn dioddef, gan gynnwys teulu a ffrindiau’r unigolion, rhai diniwed sy’n cerdded heibio, yn ogystal â’r Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Achub ac Ambiwlans sy’n cael eu galw arnynt i drafod canlyniadau’r gwrthdrawiad.