Mae Rhaglen y Ddraig wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlwyddyn 10 yn yr ysgol nad yw eu hanghenion yn cael eu bodloni’n llawn yn awyrgylch y dosbarth. Mae’n rhoi profiad addysgol ar thema Tân ac Achub sy’n cyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol ac yn ei gryfhau. Y nod yw codi cyflawniad, gwella hunan gymhelliad, cynyddu ymwneud addysgol a meithrin sgiliau ymarferol, sgiliau byw, sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm.
Cynhelir y cyfnod hyfforddi dwys yng Ngorsaf Dân Malpas, gan ganolbwyntio ar hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau ymladd tân gan gynnwys chwilio ac achub, diogelwch tân yn y cartref, iechyd a diogelwch, a defnyddio pympiau, ysgolion, pibau dwr, clymau a rhaffau’r Gwasanaeth Tân.
Er mwyn llwyddo i gwblhau’r cwrs 12 wythnos gychwynnol, rhaid dangos gwelliant amlwg mewn ymddygiad ac agwedd tuag at astudiaethau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. O wneud hyn caiff myfyrwyr wahoddiad i ‘gyfnod parhau’ sy’n canolbwyntio ar adeiladu tîm a gweithgareddau sgiliau byw sydd wedi eu cynllunio i gyd-fynd â thema’r Gwasanaeth Tân ac Achub a’i chryfhau. Fe’i cynhelir yng Ngwersyll Hyfforddi Milwrol Cwrt-y-gollen ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r Fyddin sy’n gyfrifol amdano. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r myfyrwyr yn ymwneud â nifer o weithgareddau awyr agored gan gynnwys cyfeiriadu, archwilio ogofau a chanwio.