Hyfforddwyd cannoedd o ddisgyblion blwyddyn 8 o ysgolion uwchradd dros ddeg awdurdod lleol yn ‘Swyddogion Tân’ ar ôl cymryd rhan yn y raglen Gwylio am Dân yr Uned Drosedd Tân.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd disgyblion yn ymweld â’u Gorsaf Dân leol, lle cyfarfyddant â’r Ymladdwyr Tân a derbyn cyflwyniad rhyngweithiol am berygl tân yn yr ysgol, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a llosgi bwriadol.
Ar ôl dychwelyd i’r ysgol, mae dyletswyddau’r disgyblion yn cynnwys goruchwylio’r adeilad i chwilio am beryglon tân posibl, gan roi gwybod i athrawon a ddynodir os sylwant ar unrhyw beryglon. Er mwyn gwneud hyn, defnyddiant daflenni arolwg arbennig a roddir gan yr Uned Drosedd Tân. Bu’r rhaglen yn gymorth i leihau tanau ysgol yn Ne Cymru, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch tân ymhlith yr holl ddisgyblion, ac mae’r rhain yn eu tro yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i’w teuluoedd a’u ffrindiau yn y gymuned.