SWFRS

Cwn Archwilio TânGwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r unig Wasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru i weithredu a defnyddio cwn archwilio tân, ac yn un o’r unig 3 Gwasanaeth Tân ac Achub yn y wlad sy’n defnyddio dau gi archwilio tân sydd wedi eu trwyddedu’n llawn.

Hyfforddir cwn archwilio tân i fynd i mewn i leoliad y tân ar ôl ei ddiffodd a’i wneud yn ddiogel, er mwyn archwilio presenoldeb hylif tanllyd a allai gael ei ddefnyddio i gynnau tân yn fwriadol. Yn achos tân mewn adeilad mawr gallai fod angen llawer o ddiwrnodau ar Swyddog Archwilio Tân i’w archwilio’n llawn, ond gallai’r cwn archwilio ardal maint cae pêl droed cyn pen 3 munud.

 

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 17/9/2008