SWFRS

Criw CraiddMae’r dull aml asiantaeth hwn o drin diogelwch wedi bod yn gyfrwng llwyddiannus i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ers ffurfio’r fenter yn ôl ym 1994. Mae’n cyfuno gwasanaethau niferus sydd â diddordeb mewn diogelwch plant.

Cynhelir Criw Craidd yn y Parth Diogelwch, Trefforest – sef pentref ffug sy’n galluogi i blant ysgol, pobl oedrannus a grwpiau cymunedol eraill ddysgu am sefyllfaoedd peryglus posibl mewn amgylchiadau tebyg i rai go iawn. Mae’r pentref yn cynnwys stryd â siop, gorsaf heddlu a chell, trac rheilffordd, is-orsaf drydan, tafarn, safle adeiladu a thy. Rhed heol, gyda man croesi i gerddwyr sy’n gweithio’n llawn, ar hyd canol y pentref.

Gall ymwelwyr â ‘set’ Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, archwilio olygfa cegin ac ystafell wely i nodi’r peryglon tân posibl, i dysgu pa mor wysig yw cael larwm fwg sy’n gweithio a sut mae dianc yn achos tân ewn ty.

Yn ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y fenter hon mae Heddlu De Cymru, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, y Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaethau Cyffuriau, Western Power Distribution, Network Rail, Stagecoach, Cynghorhau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a Merthyr, Caerffili a Bro Morgannwg.

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 17/9/2008