SWFRS

Prosiect ‘Stick It’ Bwriad Prosiect ‘Stick It’ yw gweithio gyda disgyblion blwyddyn 6 fel rhan o’u cyfnod pontio i addysg uwchradd, lle y gallent wynebu pwysau negatif gan gyfoedion, cymysgu gyda chyfoedion hŷn, yn ogystal â delio â themtasiwn cyffuriau, alcohol, gangiau ac ati.

Mae’r prosiect yn targedu ardaloedd yn Ne Cymru y mae’n bosibl bod nifer uchel o danau eilaidd megis tanau bin, car, gwair ac ati. Fel rhan o’r prosiect mae’r bobl ifanc yn casglu nifer o sticeri dros nifer o wythnosau er mwyn llenwi eu llyfr sticeri personol.

Er mwyn casglu’r sticeri, mae’n rhaid iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau ieuenctid arbennig tu allan i oriau ysgol. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys nifer o weithdai gan y Gwasanaeth Tân, adeiladau perthynas gydag Ymladdwyr Tân a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau a gynhelir mewn canolfannau ieuenctid a chanolfannau cymunedol lleol.

Dyma amcanion ‘Stick It’: Gwella ymgysylltu â phobl ifanc, gwella cyfathrebu a bod yn gyfarwydd â’r Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol ac ati.  Anogir cymryd rhan mewn gweithgareddau tu allan i oriau ysgol i gynorthwyo gyda lleihau tanau eilaidd yn yr ardal gyfagos. Y bwriad yw atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol o oedran ifancach yn ogystal ag ymdrin â’r mater mewn dull aml-asiantaeth a chwrdd ag amcanion cyffredin o ran gweithio â phobl ifanc. Y bwriad hefyd yw cryfhau’r rhwydweithio rhwng asiantaethau a phobl ifanc.

Cynhelir y prosiect dros ddeuddeg wythnos ar y mwyaf yn ddibynnol ar amser y flwyddyn a’r gweithgareddau sydd ynghlwm.

Hyd yma, mae prosiect ‘Stick It’ wedi gweithio gydag amrywiaeth helaeth o asiantaethau partner megis prosiect tai lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Valleys Kids, Heddlu De Cymru a llawer mwy.....

 

 

 

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 06/1/2009