Mae yna dri thîm yn gweithio ledled Cymru, ac un tîm wedi’i leoli yng Ngorsaf Tân Trelái. Ariennir y tîm gan Lywodraeth Cynulliad Cymru am dair blynedd ac ar hyn o bryd mae ar fin cychwyn ar ei drydeddflwyddyn. Ei fwriad cyntaf yw lleihau ymddygiad yn ymwneud â llosgi bwriadol.
Bu canlyniadau sylweddol i waith y tîm a leolir yng ngorsaf Trelái eisoes wrth leihau tanau ceir ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Mae’r tîm yn ymgorfforiad o’r gwir bartneriaeth sydd rhwng y gwasanaeth tân ac achub a’r heddlu sydd wedi’u cydleoli yng Ngorsaf Dân ac Achub Gymunedol Trelái.
Drwy gydweithio ac ymrwymo â’r gymuned leol a gweithredoedd yn seiliedig ar wneud penderfyniadau, crëwyd nifer o ‘ardaloedd wedi’u cau â ffensys’ er mwyn lleihau’r ardaloedd sydd ar gael i geir gael eu gadael a’u rhoi ar dân.
Er nad yw’r prosiect wedi cael ei werthuso’n ffurfiol eto rhagwelir y bydd canlyniadau llwyddiannus sydd eisoes wedi’u cyflawni er mwyn darparu tystiolaeth ar gyfer ehangu’r tîm.
Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol
Ffon: 0800 7317287 E-bost: arson@southwales-fire.gov.uk
Dysgu a Datblygu
Ffon: 01443 232000 E-bost: education@southwales-fire.gov.uk