Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig cyfle i chi gael Archwiliad Diogelwch Tân yn eich Cartref AM DDIM, wedi’i wneud gan Ymladdwyr Tân o’r Orsaf Dân leol.
Tanau yn y cartref sy’n bennaf gyfrifol am farwolaethau tân. Gall gosod larwm mwg, ei brofi a’i gynnal yn barhaus, yn ogystal â chynllunio dihangfa yn achos tân leihau’r perygl o farwolaeth ac anaf difrifol yn sylweddol. Er bod ein hymgyrchu yn targedu, yn anad neb, y bobl sy’n wynebu’r perygl mwyaf dros ranbarth De Cymru, byddwn yn ymweld ag unrhyw drigolyn sy’n gofyn am Archwiliad Diogelwch yn y Cartref.
Gall perchnogion tai wneud apwyntiad trwy ffonio 0800 169 1234, neu trwy ymweld â’u Gorsaf Dân leol. Yna bydd eu Hymladdwyr Tân lleol yn trefnu amser cyfleus i ymweld â’u cartref a chynnal arolygiad, gan chwilio am beryglon tân. Maent yn rhoi cyngor a all achub bywyd ar sut mae nodi’r peryglon tân yn y cartref, beth i’w wneud yn achos tân yn y cartref, a sut mae cynllunio dihangfa i berchnogion y ty a’u teuluoedd. Byddant hefyd yn darparu a gosod larwm mwg 10-mlynedd lle bo angen yn rhad ac am ddim. Mae angen rhyw hanner awr i gwblhau’r ymweliad.
Rhoddir targed i bob Gorsaf Dân o’r nifer o Ymweliadau Diogelwch Tân yn y Cartref y dylent eu gwneud bob blwyddyn.
Ymweliad Diogelwch Tân yn y Cartref Ffôn am dim ar 0800 169 1234 Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
Ffôn am dim ar 0800 169 1234
Llanwch y ffurflen cofrestri ar lein
E-bost: Diogelwch Tân yn y Cartref Testun: 88365 [Canllaw]
Manylion Cyswllt E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk Ffôn: 01443 232000
Manylion Cyswllt
E-bost: DTC@decymru-tan.gov.uk
Ffôn: 01443 232000