Yn unol â Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988, mae disgwyl i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru gynnal cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau. Yn ôl y Ddeddf, mae angen i Awdurdodau sefydlu cofrestr gyhoeddus o hysbysiadau perthnasol a gyflwynwyd sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch, diogelu’r amgylchedd a materion perthnasol.
Fel awdurdod gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân, bydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru’n cynnal y gofrestr gyhoeddus o hysbysiadau a gyflwynwyd.