Rhaid i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig gynnal, neu benodi person cymwys i gynnal, asesiad risgiau tân addas a digonol o’r risgiau tân i’w cyflogeion ac i eraill y gallai tân effeithio ar eu gwaith neu eu busnes. Rhaid i’r rheiny sy’n cyflogi pump neu fwy o weithwyr gadw cofnod ffurfiol o unrhyw ganfyddiadau arwyddocaol a’r mesurau lliniaru sydd wedi eu cymryd, neu y mae angen eu cymryd. (Gweler isod am fanylion o’r termau a amlygwyd uchod.)
Y ‘person cyfrifol’ fydd yn gyfrifol am gydymffurfio â’r Gorchymyn Diogelwch Tân. Mewn gweithle, bydd hyn yn golygu’r cyflogwr ac unrhyw berson arall a all fod â rheolaeth dros unrhyw ran o’r adeilad, e.e. y deiliad neu’r perchennog. Ym mhob adeilad arall y person neu’r bobl sy’n rheoli’r safle fydd yn gyfrifol. Os oes mwy nag un person cyfrifol mewn unrhyw fath o adeilad, rhaid iddynt i gyd gymryd pob cam rhesymol i gydweithio â’i gilydd.
Os chi yw’r person cyfrifol rhaid i chi gynnal asesiad risgiau tân sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch pob ‘person perthnasol’ os digwydd tân. Dylai roi sylw arbennig i’r rheiny a all fod mewn perygl arbennig, fel pobl anabl a’r rheiny sydd ag anghenion arbennig, a rhaid i’r asesiad gynnwys ystyriaeth o unrhyw sylweddau peryglus a allai fod ar y safle. Bydd eich asesiad risgiau tân yn eich helpu i nodi’r risgiau a all gael eu dileu neu eu lleihau ac i benderfynu natur a chwmpas rhagofalon tân cyffredinol y mae angen i chi eu rhoi ar waith i amddiffyn pobl rhag y risgiau tân sy’n weddill.
Os ydych yn cyflogi pump neu ragor o bobl rhaid i chi gofnodi canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad.
Nid oes angen i’r person cymwys neu’r aseswr risgiau tân feddu ar unrhyw gymwysterau academaidd penodol ond dylai:
Er nad yw’r ddeddfwriaeth yn diffinio addas a digonol, ystyrir yn gyffredinol y dylai asesiad risgiau gynnwys y canlynol:
1. Nodi’r risgiau tân sy’n deillio o waith neu sy’n gysylltiedig ag ef:
Dylid rhoi sylw i’r pethau a allai gynnau tân, ffynonellau tanwydd a phrosesau gwaith.
2. Nodi lleoliad pobl sydd mewn perygl arbennig os digwydd tân:
Bydd angen nodi’r mannau lle bydd pobl yn eu mynychu, p’un ai’n gyflogeion, cwsmeriaid, contractwyr allanol ac ati.
3. Gwerthuso’r risgiau:
4. Nodi’r canfyddiadau a’r camau a gymerwyd:
Paratowch gynllun argyfwng, a rhowch wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant am ragofalon tân i gyflogeion.
5. Adolygu’r asesiad yn gyson:
Yn gyffredinol, dylai’r dyddiad adolygu fod blwyddyn ar ôl cwblhau’r asesiad risgiau, ond efallai y bydd angen gosod dyddiad cynharach, yn ddibynnol ar y math o adeilad, y prosesau sy’n cael eu cynnal, ac ati.
Disgwylir i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig gymryd camau rhesymol i’w helpu eu hunain i nodi risgiau tân, e.e. trwy edrych ar ffynonellau priodol o wybodaeth fel deddfwriaeth, a chodau ymarfer neu drwy gyfeirio at unigolyn cymwys.
Ar gyfer safleoedd bach lle ceir ond ychydig o beryglon neu beryglon syml, gall asesiad risgiau tân addas a digonol fod yn broses syml iawn.
Mewn llawer o achosion canolradd bydd angen i’r asesiad risgiau tân fod yn fwy trylwyr. Efallai bydd angen cyngor arbenigol mewn rhai rhannau o’r asesiad er enghraifft mewn adeilad cymhleth iawn.
Bydd angen yr asesiadau risgiau tân mwyaf datblygedig a thrylwyr ar safleoedd mawr a chymhleth yn enwedig lle bo atebion peirianneg tân wedi eu datblygu i oresgyn problemau diogelwch tân anodd.
Rhaid i asesiadau risgiau tân ystyried hefyd bawb y gall y gwaith effeithio arnynt, p’un ydynt yn gyflogeion, neu bobl eraill fel contractwyr sy’n gweithio ar y safle neu aelodau o’r cyhoedd. Dylid rhoi sylw arbennig i’r unigolion hynny sy’n agored iawn i niwed fel pobl ifanc, yr henoed neu bobl ag anableddau.
Dylai canfyddiadau arwyddocaol gynnwys:
Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LlantrisantCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000E-bost: diogelwchtan@decymru-tan.gov.uk
Reportio Pryder ynghylch Diogelwch Tân
A ydych wedi ymweld ag adeilad yn ddiweddar yr oeddech yn pryderu ynghylch ei Ragofalon neu Reolaeth Diogelwch Tân - os felly cwblhewch y ffurflen ar lein i reportio eich pryder
Ffôn 01443 232520 / 232732 (Oriau Gwaith Arferol) neu 01443 232000 (Rhif Ffôn 24 awr).