Mae’n effeithio ar gyflogwyr ac unrhyw un â chyfrifoldeb rheoli dros eiddo y mae gan y cyhoedd fynediad ato fel ymwelwyr neu weithwyr. Cyfrifoldeb y ‘person cyfrifol’ yw cydymffurfio â’r Gorchymyn Diogelwch Tân.
Yn y gweithle, y cyflogwr yw’r ‘person cyfrifol’, neu unrhyw berson arall sydd â rheolaeth dros unrhyw ran o’r eiddo, er enghraifft, y meddiannydd neu’r perchennog.
Yng nghyd-destun pob eiddo arall, y person neu’r bobl sy’n rheoli’r eiddo fydd yn ‘gyfrifol’. Os oes mwy nag un person cyfrifol mewn unrhyw fath o eiddo, rhaid cymryd pob cam rhesymol i gydweithio.
Yn ogystal, mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bobl hunangyflogedig a’r sector gwirfoddol.
Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn berthnasol i bron pob eiddo, gan gynnwys bron pob math o adeilad, strwythur a gwagle. Er enghraifft:
Noder: Nid yw’r Gorchymyn yn cynnwys eiddo domestig sy’n gartref i grŵp teulu unigol.
Nid yw tystysgrifau tân yn ddilys bellach. Nid ydynt yn cael eu dosbarthu ychwaith. Er hynny, os yw eich eiddo wedi derbyn tystysgrif tân yn y gorffennol, gall hynny ffurfio sail dda ar gyfer eich asesiad diogelwch tân.
Mae gan y ‘person cyfrifol’ ddyletswydd gyfreithiol i weithredu Asesiad Diogelwch Tân. Pwrpas yr asesiad hwn yw sicrhau nad yw’r bobl ar eich eiddo neu’n agos ato o dan fygythiad tân ar eich eiddo. Rhaid i chi sicrhau bod person cymwys yn gweithredu’r Asesiad Diogelwch Tân. Rhaid cywiro unrhyw ddiffygion a nodir yn yr arolwg (y ‘darganfyddiadau arwyddocaol’).
Mae’n debygol y bydd Swyddog Diogelwch Tân yn ymweld â’ch eiddo ar ryw achlysur er mwyn ei archwilio.
Yn ystod yr archwiliad, efallai bydd yr archwiliwr yn dymuno gweld y dogfennau canlynol:
Bydd y Swyddog Diogelwch Tân yn gweithio gyda chi er mwyn gwneud eich eiddo yn lle mwy diogel drwy gynnig cyngor ac arweiniad i chi. Er hynny, mae gan yr Awdurdod Tân ddyletswydd i orfodi Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), gan ystyried erlyniad trwy’r llysoedd os bydd pob ymdrech arall yn methu.
Yr Awdurdod Tân ac Achub yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer rhagofalon tân cyffredinol. Byddwn yn archwilio eiddo yn ogystal â gweithredu archwiliadau o asesiadau diogelwch tân er mwyn gorfodi gofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân. Gweithredir yr holl waith archwilio yn unol ag egwyddorion gorfodaeth da concordat gorfodi’r Llywodraeth.
Byddwn yn targedu eiddo sy’n cynrychioli’r risg mwyaf i bobl ac i’r gymuned. Yn gyffredinol, busnesau sy’n gweithredu mewn adeiladau o safon isel yw’r rhain, sy’n rheoli’r eiddo’n wael neu sydd â mesuriadau atal a diogelu tân o safon isel ar waith.