Apelio yn erbyn yr hysbysiad - rhaid gwneud hyn o fewn 21 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad, gan wneud hynny i lys ynadon (darperir y manylion perthnasol yng nghorff yr hysbysiad).
Os byddwch yn apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi neu hysbysiad addasu, byddwn yn gohirio’r hysbysiad tan fod yr apêl wedi ei waredu neu ei dynnu.
Bydd hwn yn arwain at dri chanlyniad posibl:
Mae hysbysiad gwahardd yn wahanol gan fod yr hysbysiad yn dal i gael ei weithredu yn dilyn apêl oni bai bod y llys yn atal yr hysbysiad. Efallai bydd y llys yn dileu neu’n cadarnhau’r hysbysiad gyda’r un canlyniadau â’r hysbysiadau gorfodi ac addasu uchod.
Bydd yr awdurdod tân ac achub yn archwilio’r wybodaeth ynghylch y toriadau ymddangosiadol i’r gyfraith diogelwch tân er mwyn penderfynu os oes trosedd neu droseddau wedi eu cyflawni. Os felly, bydd y gwasanaeth yn casglu gwybodaeth er mwyn galluogi erlyniad i gael ei gweithredu yn erbyn y troseddwr honedig.
Yn dilyn archwiliad o’r troseddau ymddangosiadol i’r gyfraith diogelwch tân lle penderfynnir erlyn y troseddwr honedig, bydd yr awdurdod tân ac achub yn ysgrifennu at y troseddwr honedig, o fewn 5 i 10 diwrnod o wneud y penderfyniad hwnnw, yn ei hysbysu o’r penderfyniad ac o’r ffaith y bydd yn derbyn manylion perthnasol pellach yn ymwneud â’r sefyllfa maes o law.
Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LlantrisantCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000E-bost: diogelwchtan@decymru-tan.gov.uk
Reportio Pryder ynghylch Diogelwch Tân
A ydych wedi ymweld ag adeilad yn ddiweddar yr oeddech yn pryderu ynghylch ei Ragofalon neu Reolaeth Diogelwch Tân - os felly cwblhewch y ffurflen ar lein i reportio eich pryder
Ffôn 01443 232520 / 232732 (Oriau Gwaith Arferol) neu 01443 232000 (Rhif Ffôn 24 awr).