Fel cyflogwr, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i weithredu asesiad risg tân. Mae rhan o hynny’n cynnwys sicrhau bod pawb yn eich gweithle yn gallu dianc a chyrraedd lle diogel mewn argyfwng.
Yn dibynnu ar y risg, dylid defnyddio padiau gwthio neu ddyfeisiau bar panig. Ni ddylid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch yr adeilad dros ddiogelwch eich gweithwyr ar unrhyw achlysur. Mae nifer o ddyfeisiau priodol ar gael sy’n cyflawni’r ddau ddiben. Os oes gennych gloriau diogelwch, rhaid i’r rhain fod ar agor pan fo pobl ar yr eiddo.
Os yw eich eiddo yn fychan a’r cynllun yn un syml, efallai bod y mynediadau arferol yn ddigonol. Rhaid sicrhau na fydd unrhyw un yn cael eu hymwahanu gan fwg neu fflamau cyn y gallant ddianc.
Os nad oes unrhyw un yn cysgu yn yr eiddo ac ystyrir bod y risg tân yn arferol, 18 medr yw’r mwyaf y dylai unrhyw un ddisgwyl teithio mewn un cyfeiriad. Gellir mynd y tu hwnt i’r pellter teithio hwn ond bydd angen darpariaeth diogelwch tân pellach er mwyn cyflawni hynny.
Mae angen llwybrau dianc mwy soffistigedig mewn adeiladau mwy gyda chynlluniau llawr mwy cymhleth. Os oes tân, dylai pobl allu troi eu cefnau arno, lle bynnag y bo, a symud i ffwrdd i le diogel y tu allan i’r adeilad.
Os oes mwy na dau lwybr dianc, dylech gymryd gofal i sicrhau nad yw’n bosibl i’r mwg a’r fflamau effeithio ar fwy nag un llwybr ar yr un pryd.
Wrth gynllunio llwybrau dianc, rhaid gwerthuso’r daith gyfan i gyrraedd lle diogel. Cadwch bob llwybr yn glir, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i’r eiddo sy’n cael eu cynnwys yn eich llwybrau dianc.
Sicrhewch fod eich gweithwyr yn ymwybodol o bob llwybr dianc sy’n bodoli, gan ymarfer eich gweithdrefnau brys yn rheolaidd.
Mae angen cynllun dianc eglur ar bob adeilad sy’n nodi’r drefn y mae disgwyl i weithwyr ac eraill eu dilyn os oes tân. Gall hyn gynnwys dyletswyddau archwilio mannau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n glir, cau drysau a chynorthwyo eraill.
Ni ddylid defnyddio’r llwybrau dianc gan weithwyr fel llwybrau cylchredeg arferol. Dylid gweithredu system reoli er mwyn cadw llwybrau dianc yn glir ar gyfer cael eu defnyddio.
Os ydych yn cyflogi pobl anabl ar eich eiddo, rhaid ystyried eu hanghenion wrth gynllunio strategaeth wacáu. Efallai y bydd angen i chi ystyried ystod eang o anableddau posibl, gan gynnwys pobl sy’n methu a symud mor hawdd oherwydd eu hoedran. Am fwy o wybodaeth, gallwch lawrlwytho atodiad ar bobl anabl o www.communities.gov.uk/fire/firesafety/firesafetylaw/
Dylid cadw’r llyfr cofnodi diogelwch tân ar eich eiddo ar bob adeg. Bydd y cofnod yn eich cynorthwyo i gydymffurfio â’ch cyfrifoldebau cyfreithiol yng nghyd-destun diogelwch tân a dylech ei lenwi yn dilyn unrhyw archwiliad, brawf neu waith cynnal a chadw ar unrhyw eitem sydd angen arnoch er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.
Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LlantrisantCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000E-bost: diogelwchtan@decymru-tan.gov.uk
Reportio Pryder ynghylch Diogelwch Tân
A ydych wedi ymweld ag adeilad yn ddiweddar yr oeddech yn pryderu ynghylch ei Ragofalon neu Reolaeth Diogelwch Tân - os felly cwblhewch y ffurflen ar lein i reportio eich pryder
Ffôn 01443 232520 / 232732 (Oriau Gwaith Arferol) neu 01443 232000 (Rhif Ffôn 24 awr).