Mae GTADC wedi ymroi i ddileu ATD ac felly'n lleihau nifer yr ysgogiadau diangen. Mae ATD yn aflonyddgar i weithrediad eich sefydliad ac i'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Drwy leihau nifer y byddiniadau gan beiriannau tân argyfwng, mae'r risg i'r gymuned a chriwiau'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn lleihau'n sylweddol. Mae mynychu ysgogiadau ATD yn golygu nad ydy peiriannau'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar gael ar gyfer tanau ac achubiadau go iawn, yn ogystal ag aflonyddu ar hyfforddiant hanfodol a mentrau diogelwch cymunedol.
Caiff pob sefydliad eu hatgoffa taw cyfrifoldeb y person sy'n gyfrifol am yr adeilad yw cynnal a chadw larymau tân, lleihad larymau tân a gweithdrefnau i adnabod galwadau ffug.
Mae'r polisi a'r cyfarwyddyd cenedlaethol yn gofyn i bob adeilad sydd â system larwm tân awtomatig feddu ar system hidlo galwadau o fewn yr adeilad er mwyn sicrhau yr adnabyddir galwadau ffug cyn y gelwir y Gwasanaeth Tân.
Ystadegau Sylfaenol
GTA De Cymru 2010-2011
Cyfarwyddyd Lleihau Galwadau FfugA fyddech cystal â tharo golwg ar y ddogfen Cyfarwyddwyd Lleihau Galwadau Ffug am gyfarwyddyd arfer dda a syniadau ar y ffordd orau i leihau larymau ffug/diangen.
Sylwer - Dylai unrhyw gamau fod yn destun asesiad risg rhag tân yr adeiladau.
Mewn rhai sefydliadau, amcangyfrifir bod dros 70% o alwadau ffug yn larymau datrysadwy a'u bod yn destun i weithredoedd dynol. Mae'r adeilad, felly, yn ymwybodol o achos ysgogiad y larwm a'i fod yn ffug. Fodd bynnag, mewn amryw o achosion, bydd y Gwasanaeth Tân dal yn cael eu byddino. Bydd mentrau lleihau galwadau GTADC yn annog gwell gweithdrefnau rheoli i leihau'r galwadau hyn.
Mae polisi GTADC yn seiliedig ar gyfarwyddyd cenedlaethol. Ei fwriad yw amlygu i adeiladau sydd â systemau larwm tân awtomatig taw eu cyfrifoldeb hwy yw rheolaeth eu systemau larymau tân a'u gweithdrefnau. Mae GTADC yn annog rheolaeth ragweithiol i leihau a gostwng galwadau ffug o fewn yr adeilad a galwadau i'r Gwasanaeth Tân. Os bydd adeilad yn parhau i gynhyrchu larymau ffug a bod ychydig neu dim camau wedi'u cymryd i adfer y broblem, yna gellir cymryd camau pellach drwy'r broses rheoleiddio diogelwch tân.
Am ragor o gyfarwyddyd, cymorth ac ymholiadau, cysylltwch â’r:Uned Lleihau GalwadauDiogelwch Tân Deddfwriaethol Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruForest ViewLlantrisantCF72 8LXFfôn: 01443 232713
e-bost: CALLREDUCTION UNIT@southwales-fire.gov.uk
Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LlantrisantCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000E-bost: diogelwchtan@decymru-tan.gov.uk
Reportio Pryder ynghylch Diogelwch Tân
A ydych wedi ymweld ag adeilad yn ddiweddar yr oeddech yn pryderu ynghylch ei Ragofalon neu Reolaeth Diogelwch Tân - os felly cwblhewch y ffurflen ar lein i reportio eich pryder
Ffôn 01443 232520 / 232732 (Oriau Gwaith Arferol) neu 01443 232000 (Rhif Ffôn 24 awr).