SWFRS

Y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (Mewn grym, 1 Hydref, 2006)

Fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i leihau’r marwolaethau, yr anafiadau a’r difrod a achosir gan dân, cynhaliodd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (Swyddfa’r Dirprwy Prif Weinidog gynt) adolygiad o gyfreithiau diogelwch tân. O ganlyniad, mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud gyda’r nod o wneud y gyfraith yn haws ei deall ac i gydymffurfio â hi.

Prif nod y newid hwn yw symleiddio, rhesymoli a chyfuno’r ddeddfwriaeth diogelwch tân bresennol. Mae’n darparu ymagwedd ar sail risg at ddiogelwch tân gan ganiatáu gorfodaeth fwy effeithiol ac effeithlon gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. (Gweler yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol am fanylion pellach.)

Prif effaith y newidiadau yw symud tuag at fwy o bwyslais ar atal tân ym mhob adeilad annomestig, gan gynnwys y sector gwirfoddol a phobl hunangyflogedig sydd â safle ar wahân i’w cartrefi. Mae’r gyfundrefn newydd o orfodaeth diogelwch tân yn effeithio ar gyflogwyr a’r rheiny sy’n gyfrifol am adeiladau annomestig, diwydiannol, masnachol a phreswyl.

Mae tystysgrifau tân wedi eu diddymu ac ni fydd unrhyw statws cyfreithiol iddynt bellach, er y byddant o hyd yn bwysig fel dogfen gyfeirio yn enwedig i’r personau hynny a fydd yn cynnal Asesiad Risgiau Tân o’r adeiladau. Ers 1 Hydref 2006 nid oes angen i ddeiliaid eiddo a ddynodir o dan Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 wneud cais am Dystysgrif Tân bellach.

Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn gymwys yng Nghymru a Lloegr. (Bydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu cyfreithiau eu hunain.) Mae’n ymdrin â 'rhagofalon tân cyffredinol' a dyletswyddau diogelwch tân eraill y mae eu hangen i ddiogelu 'pobl berthnasol' mewn achos o dân yn y mwyafrif o ‘adeiladau’ ac o’u cwmpas. Mae’r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu rhagofalon tân "lle bo angen" ac i’r graddau sy’n rhesymol ac yn ymarferol o dan amgylchiadau’r achos.

Wrth wraidd y ddeddfwriaeth mae’r Asesiad Risgiau Tân (gweler isod am fwy o fanylion). Arfarniad wedi’i drefnu yw hwn o’ch gweithgareddau gwaith a’r gweithle i’ch galluogi chi i nodi unrhyw beryglon tân posibl, ac i benderfynu pwy (gan gynnwys cyflogeion ac ymwelwyr) allai fod mewn perygl pe bai tân yn digwydd, a’u lleoliad. Yna byddwch yn gwerthuso’r risgiau sy’n deillio o’r peryglon ac yn penderfynu a fydd y rhagofalon tân presennol yn ddigonol, neu a oes angen gwneud mwy.

 

 Canllawiau Cymorth

Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Manylion Cyswllt                                 

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
Llantrisant
CF72 8LX

Ffôn: 01443 232000

E-bost: firesafety@southwales-fire.gov.uk 

 Cysylltiadau Defnyddiol

SWFRS
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 02/9/2010