Partneriaeth 

Mae Prosiect Bernie yn ddull partneriaeth o leihau nifer y tanau glaswellt bwriadol yn ardal gorsaf dân Tonypandy dros gyfnod Gwyliau’r Pasg

Mae gan danau glaswellt bwriadol oblygiadau ariannol ar gyfer y sefydliad a chymunedau lleol. Maent yn hynod o anodd eu diffodd a phob blwyddyn maent yn ymestyn adnoddau’r Gwasanaeth Tân hyd yr eithaf. Gallai hyn yn ei hun arwain at drychineb, os byddai’r gymuned leol angen peiriant i fynd at dân mewn cartref, gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd neu ddigwyddiad tebyg.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar 3 prif ardal

1.    Gweithgareddau gwyro ar gyfer pobl ifanc dros wyliau’r Pasg

2.    Patrolau amlwg iawn yn yr ardal

3.    Negeseuon amlwg iawn yn y cyfryngau er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg y gymuned leol

 

 

 

Cysylltiadau Defnyddiol

Forestry Commission 

Tonypandy Community College

Gwasanaeth Tan ac Acub De Cymru

ARK Youth and Community Project

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS