Ymladdwr Tân am ddydd 

Ymladdwr Tân am ddydd

Wyt ti erioed wedi dychmygu beth fyddai fel i fod yn Ymladdwr Tân?

Yn ystod ‘Ymladdwr Tân am ddydd’ cewch gyfle i dreulio diwrnod mewn Gorsaf Dân a chymryd rhan mewn gweithgareddau Ymladd Tân megis dringo ysgol, gweithio mewn tîm pibell ddŵr a chwblhau ymarfer chwilio ac achub mewn digwyddiad ffug.

Bydd hefyd cyfle i ddysgu am y peryglon sy’n wynebu personél y gwasanaeth tân ac achub yn ystod eu gweithgareddau dyddiol a deall effaith digwyddiadau fel tanau glaswellt ar eich cymuned.

Byddwch yn cael eich rhoi mewn tîm sy’n cael ei alw’n ‘wylfa’ ac yn derbyn heriau drwy gydol y dydd; bydd yn gyflym, yn hwyl ac yn llawn antur!

Ymladdwr Tân am ddydd 

Ble a phryd?

I weld ble a phryd bydd ‘Ymladdwr Tân am ddydd’ yn digwydd edrychwch ar y tabl digwyddiadau.

Pa mor hen mae’n rhaid i mi fod i gymryd rhan yn y gweithgaredd?

Addas i bobl ifanc rhwng 13 a 18 mlwydd oed

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Gwisgwch ddillad cyfforddus ar gyfer y dydd, tracsiwt, crys T, siaced fleece. Dewch a phâr o sanau trwchus a chrys T sbâr.

Byddwch yn cael offer amddiffyn personol; esgidiau, leggings, siaced, helmed a menig. Bydd yr holl offer arall yn cael ei ddarparu.

A fydd lluniaeth yn cael ei ddarparu?

Bydd tocyn cinio a lluniaeth yn cael eu darparu

Icon Sut ydw i'n gwneud cais?

Mae ‘Ymladdwr Tân am ddydd’ yn gyfyngedig i 20 person ar gyfer pob digwyddiad, archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

E-bostiwch:
Bernie@southwales-fire.gov.uk
gan nodi’r cyfeirnod FF4ADAY
neu ffonio 01443 232000 am ragor o fanylion

 Ffurflen Gydsynio

Mae'n bwysig ein bod yn derbyn caniatad cyn y digwyddiad, anfonwch eich ffurflen ganiatad at:

Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pont-y-clun, CF72 8LX neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod.

Gweith Garedd

Bookmark and Share

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS