Mae’r Ddraig Fach yn gynllun datblygu ieuenctid gyda’r pwyslais ar waith tîm, arweinyddiaeth, sgiliau bywyd a pharch. Mae’n seiliedig ar Raglen y Ddraig, rhaglen lwyddiannus, y mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi’i chynnal ers pedair blynedd.
Yn ystod y rhaglen pedwar diwrnod llawn antur hon, cewch y cyfle i ddysgu technegau Ymladd Tân gyda phympiau a phibellau dŵr, dysgu sut i weithio a dringo ysgol, ennill cymhwyster cymorth cyntaf (Heartstart) a chael gwybodaeth ar y technegau chwilio ac achub sy’n cael eu defnyddio gan ymladdwyr tân wrth chwilio mewn adeiladau sy’n llosgi. Mae pynciau eraill yn cynnwys diogelwch ar y ffyrdd, diogelwch yn y cartref a materion sy’n wynebu ymladdwyr tân yn y gymuned yr ydych yn byw ynddi e.e. galwadau ffug a thanau glaswellt.
I weld ble a phryd bydd Rhaglen y Ddraig yn digwydd edrychwch ar y tabl digwyddiadau.
13-15 Mlwydd Oed
Gwisgwch ddillad cyfforddus ar gyfer y dydd, tracsiwt, crys T, siaced fleece. Dewch a phâr o sanau trwchus a chrys T sbâr.
Byddwch yn cael offer amddiffyn personol; esgidiau, leggings, siaced, helmed a menig. Bydd yr holl offer arall yn cael ei ddarparu.
Bydd tocyn cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.
Mae Rhaglen y Ddraig yn gyfyngedig i 20 person ar gyfer pob digwyddiad, archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
E-bostiwch Bernie@southwales-fire.gov.uk gan nodi’r cyfeirnod Rhaglen y Ddraig neu ffonio 01443 232000 am ragor o fanylion.
Ffurflen Gydsynio
Mae'n bwysig ein bod yn derbyn caniatad cyn y digwyddiad, anfonwch eich ffurflen ganiatad at:
Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pont-y-clun, CF72 8LX neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod.