Mae cyrsiau Byw yn y Gwyllt yn gyflwyniad i sgiliau goroesi yn yr awyr agored sylfaenol sydd hefyd yn cynnwys llawer o brofiad ymarferol. Caiff ei gynnal mewn amgylchedd coedwig a byddwn yn eich darparu ag ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol a thechnegau, dyma restr o rai ohonynt isod;
Bydd y technegau hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r problemau sy’n gysylltiedig â llosgi bwriadol, galwadau ffug, ymosodiadau ar ymladdwyr tân ac yn benodol tanau glaswellt a choedwig ac effeithiau’r digwyddiadau hyn ar eich cymuned a’r amgylchedd.
I weld ble a phryd bydd Byw yn y Gwyllt yn digwydd edrychwch ar y tabl digwyddiadau.
Addas i bobl ifanc rhwng 13 a 16 mlwydd oed
Beth i’w wisgo? Ar y bryniau mae’n fwy pwysig bod yn gyfforddus na bod yn ffasiynol. Y tebygrwydd yw na fydd unrhyw un yn eich gweld.
Bydd yr holl offer a bwyd yn cael ei ddarparu. Hysbyswch ni wrth archebu os oes gennych unrhyw anghenion dietegol arbennig.
Bydd tocyn cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.
Mae Byw yn y Gwyllt yn gyfyngedig i 10 person ar gyfer pob digwyddiad, archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
E-bostiwch:Bernie@southwales-fire.gov.uk gan nodi’r cyfeirnod Byw yn y Gwyllt neu ffonio 01443 232000 am ragor o fanylion.
Ffurflen Gydsynio
Mae'n bwysig ein bod yn derbyn caniatad cyn y digwyddiad, anfonwch eich ffurflen ganiatad at:
Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pont-y-clun, CF72 8LX neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod.