bernie header
Bernie 

Bernie

Enw: Bernie

Oedran: 2 flwydd oed

Diddordebau: bwyta glaswellt, cerdded mewn caeau a chwrdd a phobl newydd

Cas bethau: pobl sy'n cynnau tanau glaswellt a thanau mynydd, sprouts a'r lliw oren

Helo, Fy enw i yw Bernie, cefais fy nghreu gan bobl ifanc De Cymru, ar gyfer pobl ifanc De Cymru.

Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd a chi yn un o'r gweithgareddau a fydd yn digwydd yn Nhonypandy dros y Pasg. Dewch i fod yn ffrindiau gyda mi ar Facebook, Twitter er mwyn ychwanegu sylwadau ac awgrymiadau ar fy nhudalen Facebook.

  • Ydych chi eisiau dysgu beth fyddai fel i fod yn Ymladdwr Tân?
  • Dysgu sut i gynllunio a chynhyrchu darn o gelf graffiti?
  • Ceisio creu eich darn crochenwaith eich hun ar olwyn crochenydd neu a hoffech fod yn rapiwr/canwr/ysgrifennwr caneuon gan wneud a recordio eich CD eich hun?

Os felly, beth am gymryd rhan mewn un o'r gweithgareddau newydd a chyffrous sy'n cael eu rhedeg gan Bernie yn ystod gwyliau Pasg 2010.

Peidiwch A bod yn swil, does dim angen unrhyw allu na phrofiad, dim ond yr awydd i drio rhywbeth newydd ac mae'r holl weithgareddau am ddim!

Er mwyn cymryd rhan dewiswch y gweithgaredd y mae gennych ddiddordeb ynddo a dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer ymuno - mae'n syml. Peidiwch ag oedi, mae llefydd yn gyfyngedig a'r cyntaf i'r felin gaiff falu.

bernie facebook    bernie twitter

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 07/4/2011
SWFRS