Rap Llosgi Bwriadol  

Mae’r prosiect rap llosgi bwriadol yn cynnig amrywiaeth o weithdai sy’n cael eu rhedeg gan arlunwyr proffesiynol sy’n hollol rhad ac am ddim, yn cynnwys:

Rap Llosgi Bwriadol CELF GRAFFITI - Dysgwch sut i gynllunio a chynhyrchu darn o gelf graffiti i safon proffesiynol gyda help arlunydd graffiti cymwys. Casglwch grŵp o ffrindiau ynghyd (hyd at 10) er mwyn trio’r gweithdy celf hwn sy’n para tuag awr a hanner, gan fynd a’r darn o waith celf orffenedig adref gyda chi.

CERAMEG - Dewch i drio creu eich darn o grochenwaith eich hun ar olwyn crochenydd. Cymrwch ran yn y gweithdy un awr a chymryd eich darn gorffenedig adref gyda chi.

YSGRIFENNU A RECORDIO ‘RAP’ - Teimlo’n gerddorol? Am fod yn rapiwr/canwr/ysgrifennwr caneuon? Eisiau clywed eich hun ar CD? Os felly, dewch i gymryd rhan mewn gweithdy awr a hanner i brofi ysgrifennu, perfformio a recordio. Does dim angen bod yn swil, does dim angen dawn gerddorol, dim ond yr awydd i drio rhywbeth newydd.

Rap Llosgi Bwriadol

Ble a phryd?

I weld dyddiadau, amseroedd a lleoliadau gweithdai edrychwch ar y tabl digwyddiadau.

Pa mor hen mae’n rhaid i mi fod i gymryd rhan yn y gweithgaredd?

Addas ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 mlwydd oed

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Dim byd, darperir yr holl ddillad amddiffynnol.

A fydd lluniaeth yn cael ei ddarparu?

Bydd tocyn cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.

 

Icon Sut ydw i'n gwneud cais?

Mae Rap Llosgi Bwriadol yn gyfyngedig i 10 person ar gyfer pob digwyddiad, archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

E-bostiwch: Bernie@southwales-fire.gov.uk gan nodi’r cyfeirnod Rap Llosgi Bwriadol  neu ffonio 01443 232000 am ragor o fanylion.

 Ffurflen Gydsynio

Mae'n bwysig ein bod yn derbyn caniatad cyn y digwyddiad, anfonwch eich ffurflen ganiatad at:

Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pont-y-clun, CF72 8LX neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod.

Gweith Garedd

Bookmark and Share

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/3/2011
SWFRS