Andy Marles QFSM MIFireE – Prif Swyddog Tân, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Diwylliant
Ymunodd Andy â’r Gwasanaeth Tân ym 1977 a gweithiodd o fewn Gweithrediadau, Diogelwch Tân, Cyfathrebu a Hyfforddiant. Yn dilyn yr ad-drefnu ym 1996 pan gafodd Gwent, De Morgannwg a Chanolbarth Morgannwg eu cyfuno, cafodd Andy ei benodi’n Brif Swyddog Tân Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros Weithrediadau ac yna Technoleg/Hyfforddiant yn hwyrach. Yn 2002 cafodd Andy ddyrchafiad yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân ac yn 2008 cafodd ei benodi yn Brif Swyddog Tân.
Cafodd Andy ei wobrwyo gyda Medal Gwasanaeth Tân y Frenhines yn 2005.
Kevin Barry BA (Anrh) CertED, GIFireE - Dirprwy Brif Swyddog Tân, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaeth
Ymunodd Kevin â’r Gwasanaeth Tân ym 1980, yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio mewn amrywiol sectorau o’r sefydliad. Roedd Kevin yn Bennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau cyn cael ei benodi ym mis Rhagfyr 2006 i fod yn Brif Swyddog Cynorthwyol - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymyrraeth. Yn 2009 cafodd Kevin ei benodi’n Ddirprwy Brif Swyddog Tân - Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaeth ac mae’n arwain ar Leihau Risg, Gweithrediadau a Rheolaeth Tân.
Enillodd Kevin Radd Dosbarth Cyntaf ag Anrhydedd mewn Addysg a Hyfforddiant ym 1993.
Sally Murton, MBA, LLB (Anrh), Dip LG, Dip LP, Cyfreithiwr - Prif Swyddog Cynorthwyol, Cymorth Corfforaethol
Ymunodd Sally â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym mis Medi 2006. Hyfforddodd yn wreiddiol fel cyfreithiwr sector cyhoeddus ac mae wedi gweithio i nifer o awdurdodau lleol ar draws De Cymru.
Mae portffolio Sally fel Cyfarwyddwr Cymorth Corfforaethol yn cynnwys Cyllid, Caffael, Storfeydd, Cymorth Busnes, Archwilio Mewnol ac Allanol, Gwasanaethau Cyfreithiol, Datblygiad Cynaliadwy a’r Amgylchedd, Rheoli Eiddo ac Asedau a Chynorthwyo Aelodau’r Awdurdod Tân. Hi sydd hefyd â’r cyfrifoldeb dros Brosiectau Mawr o fewn y sefydliad.
Sally hefyd yw Swyddog Monitro'r Gwasanaeth a’r Swyddog Cydymffurfio Iaith Gymraeg.
Phil Haynes FCIPD– Prif Swyddog Cynorthwyol, Gwasanaethau Pobl
Mae Phil wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ers 1976. Mae wedi cyflawni nifer o rolau AD gyda chyflogwyr yn cynnwys Cyngor Sir Gwent, Llysoedd Ynadon yng Nghaerdydd a Gwent, Heddlu Gwent a Gwasanaeth Llys Ei Mawrhydi. Mae Phil yn Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, ac ef sy’n gyfrifol am berfformiad strategol rheolaeth Adnoddau Dynol, ac am Hyfforddiant a Datblygiad y Gwasanaeth gan gynnwys MCP (Menter Cyllid Preifat) Canolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd.
Huw Jakeway, MSc MIFireE – Prif Swyddog Tân Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Cynllunio, Datblygu a Chymorth
Ymunodd Huw â Gwasanaeth Tân Canolbarth Morgannwg gynt ym 1990.
Mae Huw wedi gweithio mewn nifer o rolau ar draws adrannau o fewn y Gwasanaeth Tân. Cafodd secondiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005 fel Cynghorydd Polisi, Gweithredol a Thechnegol.
Ym mis Hydref 2009 cafodd ei benodi i swydd Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Cyfarwyddwr Cynllunio, Datblygu a Chymorth ac mae ei bortffolio yn cynnwys Fflyd a Pheirianneg, Arloesi a Gwella, Iechyd a Diogelwch, Prosiectau Arbennig, Cydnerthu a Chynllunio a Datblygu ac Adolygu.
Yn 2005 enillodd Huw MSc mewn Rheolaeth Gyhoeddus o Brifysgol Morgannwg.
Cyfeiriad Gwasanaeth Tân ac Achub De CymruParc Busnes Fforest View LlantrisantPont y- clunCF72 8LX
Ffôn: 01443 232000Ffacs: 01443 232180E-Bost: swfs@southwales-fire.gov.uk