Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 

Ers 1 Ebrill 1996, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn gyfrifoldeb Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Mae'r cyfrifoldeb am reoli'r Gwasanaeth yn rhan o ddyletswyddau'r Prif Swyddog Tân, sydd yn cael ei gefnogi gan bum Prif Swyddogion a Bwrdd Dilyniant Corfforaethol a fydd yn gwneud penderfyniadau polisi. Mae ein hamcanion strategol wedi'u hamlinellu yn ein datganiadau Gweledigaeth a Chenhadaeth.

Gweledigaeth:

Gwneud ein cymunedau yn llefydd diogelach i fyw, gweithio ac ymweld â hwy. 

Cenhadaeth:

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth byddwn yn:

  • Sicrhau bod y cyfan o’n cymunedau yn ymwybodol o’r peryglon
  • Gweithio gyda phartneriaid i leihau’r peryglon
  • Targedu ein gwasanaethau yn ôl y galw
  • Rhoi ymateb ardderchog a chwim pan fydd angen ein gwasanaethau er mwyn achub ac amddiffyn

Gwerthoedd Craidd

Rydym ni’n rhoi gwerth ar:

  • Wasanaeth i’r gymuned
  • Pobl
  • Amrywiaeth
  • Gwelliant

Gwansanaeth I'r Gymuned

Rydym ni’n gwasanaethu’n cymuned drwy:

  • Weithio gyda phob grŵp i leihau peryglon
  • Trin pawb yn deg a chyda pharch
  • Bod yn atebol i’r rhai yr ydym ni’n eu gwasanaethu
  • Ymdrechu tuag at ragoriaeth ymhob peth y gwnawn ni

 Pobl

Rydym ni’n rhoi gwerth ar bob un o’r cyflogeion drwy arfer a hyrwyddo:

  • Tegwch a pharch
  • Cydnabyddiaeth o deilyngdod
  • Gonestrwydd, cywirdeb ac ymddiriedaeth cilyddol
  • Datblygiad personol
  • Gweithio cydweithredol a chynhwysol

Amrywiaeth

Rydym ni’n rhoi gwerth ar amrywiaeth yn y gwasanaeth a’r gymuned drwy:

  • Drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Darparu atebion amrywiol ar gyfer anghenion a disgwyliadau gwahanol
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal mewn cyflogaeth a dilynant o fewn y gwasanaeth
  • Herio rhagfarn ac anffafriaeth

Gwelliant

Rydym ni’n rhoi gwerth ar welliant ar bob lefel o’r gwasanaeth drwy:

  • Dderbyn cyfrifoldeb am ein perfformiad
  • Bod yn feddwl agored
  • Ystyried beirniadaeth yn feddylgar
  • Dysgu oddi wrth ein profiad
  • Ymgynghori ag eraill

                 Manylion Cyswllt

 

Cyfeiriad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Ffôn:  01443 232000
Ffacs: 01443 232180
E-Bost:
GTDC@decymru-tan.gov.uk

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/9/2011
SWFRS