Uned Gydraddoleb Ac Amrywiaeth 

Gydraddoldeb ac Amrywiaeth!

Mae amrywiaeth yn un o werthoedd craidd y Gwasanaeth Tân ac Achub. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gwasanaeth a’r gymuned drwy:

  • Drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Darparu atebion amrywiol ar gyfer anghenion a disgwyliadau gwahanol
  • Hybu cyfle cyfartal mewn cyflogaeth a dilyniant yn y gwasanaeth
  • Herio rhagfarn a gwahaniaethu

Ein nod yw prif ffrydio cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn i sicrhau bod de Cymru yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag e.

Yn ystod 2010, gwnaethom gyflwyno 15 o amcanion cydraddoldeb ac amrywiaeth i’w cyflawni erbyn 2014. Cafodd y rhain eu llywio gan ein staff a dinasyddion de Cymru. Gwnaethom gynnal digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori, arolygon staff, gan ddadansoddi data am gyflogaeth a darpariaeth gwasanaethau, asesiadau effaith yn ogystal ag arolygon cymunedol.

Ein Cymuned

Mae gwybodaeth a darpariaeth ar gyfer lleihau risg ar gael i bob cymuned eu gweld a chânt eu teilwra i’w hanghenion

Mae gweithgarwch ymgysylltu cymunedol teilwredig, cydlynedig a chynaliadwy yn meithrin parch ac yn hysbysu gwelliannau o ran darpariaeth gwasanaethau. Caiff y gymuned ei grymuso ac mae’n teimlo’n hyderus wrth gysylltu â ni gan wybod ein bod yn sefydliad sy’n gwrando

Ein Pobl 

Caiff staff eu gwerthfawrogi ac mae ganddynt yr un cyfle i fanteisio ar gyfleoedd datblygu

Mae cyfathrebu agored, gonest ac aml-gyfeiriad yn meithrin ymddiriedaeth, yn meithrin cydberthnasau ac yn hysbysu gwelliannau

Caiff gwrthdaro rhwng staff ei ddatrys yn gyflym

Mae cyfleoedd gweithio hyblyg yn galluogi staff i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Ein Sefydliad

Mae arweinwyr yn hyderus o ran hybu negeseuon cydraddoldeb ac amrywiaeth yn fewnol ac yn allanol

Mae pob aelod o staff yn deall manteision ymarferol cynnal Asesiad o Effaith Cydraddoldeb a chânt eu cyflawni ar ddechrau unrhyw weithgaredd, penderfyniad a phrosiect neu wrth ddatblygu polisi.

Cofnodi tryloyw o ran llwyddiannau a heriau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Awdurdod sy’n fodlon ailddyfeisio ffyrdd sy’n bodoli eisoes a ffyrdd traddodiadol o weithio i gofleidio cyfleoedd yn yr hinsawdd economaidd bresennol i ailedrych ar y ffordd y mae’n denu ac yn hyfforddi ei staff

Awdurdod sy’n chwilio am welliannau

Caiff data am gydraddoldeb ei goladu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i lywio gwelliannau

Ein Hadnoddau

Mae GTADC yn defnyddio arian cyhoeddus mewn ffordd deg a chyfiawn a bydd ein proses gaffael yn sicrhau hygyrchedd i fusnesau bach a chanolig, busnes lleol a’r trydydd sector

Cynaliadwyedd

Cyfathrebu mewnol ac allanol sy’n hybu ac yn cydnabod amrywiaeth ac anghenion staff a’r gymuned 

Caiff cyflawniadau a llwyddiannau eu dathlu a’u hybu’n fewnol, yn lleol ac yn genedlaethol.


      Cysylltiadau Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 30/9/2011
SWFRS