Daeth Deddf Cydraddoldeb 2010 i rym ar 1 Hydref 2010 a diddymodd yr holl ddeddfwriaeth wahaniaethu sylfaenol (gan gynnwys Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975, Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 a’r Rheoliadau o ran diogelu rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred ac oedran) yn ogystal â llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth eilaidd, gan ddod â chyfreithiau cydraddoldeb o dan un Ddeddf.
Mae naw “nodwedd wedi’i diogelu” erbyn hyn (cyfeirid atynt gynt fel ceinciau cydraddoldeb), sef: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ym mis Ebrill 2011, caiff deddfwriaeth ei chyflwyno sy’n sicrhau y bydd gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gwasanaethau Tân ac Achub, ddyletswydd i hybu cydraddoldeb ar wyth o’r seiliau hyn (nid priodas na phartneriaeth sifil).
Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu diffiniadau o: wahaniaethu uniongyrchol; gwahaniaethu’n deillio o anabledd; gwahaniaethu anuniongyrchol; aflonyddu ac erledigaeth.
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd gydraddoldeb gyffredinol newydd ar gyfer y sector cyhoeddus a ddaw i rym ym mis Ebrill 2011. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r sector cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaethau Tân ac Achub:
Datblygodd Llywodraeth Cymru ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn seiliedig ar ein hanghenion. Dylai’r dyletswyddau cydraddoldeb penodol ein helpu i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol. Y rhain yw:
Manylion Cyswllt
Carey Wood-Duffy – Swyddog Amrywiaeth
E-bost: C-wood-duffy@decymru-tan.gov.ukFfôn: 01443 232749