Mae’r Grŵp LHDT ar gyfer pob aelod o staff sy’n ystyried eu hunain i fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu’n drawsrywiol. Dyma’r grŵp rhwydweithio mwyaf newydd a chafodd ei sefydlu i gydnabod eu hymrwymiad i staff cymorth a chaniatáu rhwydweithio yn ogystal â chyfleoedd cymdeithasol. Wedi i ddigon o ddiddordeb gael ei fynegi, caiff cyfarfod ei drefnu oddi ar y safle.
Bydd y gweinyddwr yn cadw unrhyw fanylion yn ymwneud â’r Grŵp yn gwbl gyfrinachol.
Os byddwch am fynegi diddordeb yn y grŵp, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd.
Mae cyfrinachedd yn hollbwysig ac ymdrinnir ag unrhyw gyswllt yn unol â hynny.
Sylwer, mae’r grŵp hwn ar gyfer gweithwyr presennol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n ystyried eu hunain i fod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu’n drawsrywiol. Gellir gofyn cwestiynau sydd heb fod yn adnabyddadwy er mwyn gwirio a oes gan unigolyn statws gweithiwr.
Er bod y grŵp ond newydd sefydlu, y bwriad yw y bydd y grŵp yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i holl aelodau’r staff.
Bydd y rhwydwaith hwn yn bodloni anghenion cymorth staff ymhellach mewn ffordd adeiladol a phroffesiynol. Bydd hefyd yn gwella’r ystod gynhwysfawr sefydledig bresennol sy’n cynnwys: LHDT, pobl anabl, yn ogystal â’r ddarpariaeth Rhwydweithio Menywod yn y Gwasanaeth Tân.
Gellir sefydlu grŵp ffydd/cred sy’n cytuno ac yn mabwysiadu Cylch Gorchwyl Rhwydweithiau Cymorth o dan ambarel Rhwydwaith Cymorth Staff Aml-ffydd.
Ymhlith rhai o’r manteision i’r grwpiau fydd y gallu i ddefnyddio lleoliadau priodol GTADC i gynnal eu cyfarfodydd neu gymdeithasau y tu hwnt i oriau gwaith, gan gyflwyno hysbysiadau ar y rhyngrwyd a defnyddio cyfleusterau megis llungopïo ac ati.
Bydd y Rhwydwaith Aml-ffydd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r grwpiau ffydd/cred i staff y gellid eu sefydlu a bydd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i rannu a gweithredu fel cyfrwng ar gyfer ymgysylltu sefydliadol.
Manylion Cyswllt
Carey Wood-Duffy – Swyddog Amrywiaeth
E-bost: C-wood-duffy@decymru-tan.gov.ukFfôn: 01443 232749