Beth yw Asesiad o Effaith Cydraddoldeb?
Mae Asesiadau o Effaith Cydraddoldeb yn fodd effeithiol o nodi unrhyw feysydd a allai wahaniaethu neu roi trigolion o dan anfantais ar sail nodweddion cydraddoldeb a hawliau dynol a ddiogelir. Mae GTADC wedi cynnal nifer o asesiadau effaith sydd wedi arwain at welliannau.
Enghreifftiau o’r hyn rydym wedi’i wella
Gwnaeth asesiad o Effaith Cydraddoldeb o symud i Bencadlys newydd lywio nifer o benderfyniadau megis parcio hygyrch, ehangu lifftiau, dolenni sain mewn ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau arlwyo a fyddai’n bodloni ystod eang o anghenion deietegol, ystafell dawel gyda chyfleusterau golchi, swyddfeydd cynllun agored i hwyluso gweithio rhwng adrannau.
Gwnaeth asesiad o Effaith Cydraddoldeb lywio manyleb newydd a oedd yn caniatáu i bob aelod o staff symud ysgolion yn ddiogel a chael gafael ar offer mewn cynhwysyddion storio is ac ysgafnach.
Arweiniodd asesiad o Effaith Cydraddoldeb y rhaglen diffoddwyr tân ifanc at wneud addasiadau rhesymol er mwyn i bobl ifanc anabl gymryd rhan yn y rhaglen.
Gwnaeth asesiad o Effaith Cydraddoldeb cyn llunio manyleb yr offer anadlu newydd hwyluso sgyrsiau ystyrlon gyda’r gymuned Sikhaidd yn ymwneud â barfau a sêl aerglos. Arweiniodd hyn at gysylltiadau da gan agor y posibilrwydd i ddiogelwch cymunedol gynnal gwiriadau diogelwch tân yn y cartref.
Gwnaeth asesiad o Effaith Cydraddoldeb o ddata monitro archwiliadau diogelwch tân busnesau lywio achos busnes ar gyfer gwaith allgymorth gyda pherchenogion busnes o Tsieineaidd.
Sylwch gan fod yr Asesiad a’r polisïau yn ddogfennau mewnol, nad ydynt ond ar gael yn Saesneg.
Manylion Cyswllt Carey Wood-Duffy – Swyddog Amrywiaeth E-bost: C-wood-duffy@decymru-tan.gov.ukFfôn: 01443 232749
Manylion Cyswllt
Carey Wood-Duffy – Swyddog Amrywiaeth
E-bost: C-wood-duffy@decymru-tan.gov.ukFfôn: 01443 232749