Arfer Presennol a Newyddion Da 

Caiff staff eu hannog i rannu eu straeon ‘newyddion da’ ar y fewnrwyd yn ogystal â chofnodi eu cyflawniadau o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Cynllun Gwella Blynyddol. O edrych yn ôl, mae rhai o’n cyflawniadau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cynnwys:

Defnyddiwyd y broses Asesiad o Effaith Cydraddoldeb (EIA) mewn nifer o ffyrdd i lywio manylebau offer arbennig neu injans tân i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cael mynediad i ysgolion ac offer, er enghraifft. Cynhaliwyd asesiad o Effaith Cydraddoldeb i lywio’r manylebau ar gyfer y pencadlys newydd ym Mharc Busnes Forest View. Roedd hwn yn cynnwys adeiladau a pharcio hygyrch, dolenni sain mewn prif fannau cyfarfod, arwyddion gweladwy, arlwyo a fyddai’n bodloni gofynion deietegol penodol a llawer mwy.

Gwnaeth ymgysylltu â’r gymuned Sikhaidd ddatblygu dealltwriaeth o’r materion diwylliannol i’w hystyried wrth ailgynllunio offer a chyfarpar anadlu. Amlygodd monitro diogelwch tân y gymuned fusnes mai perchenogion busnes Tsieineaidd oedd y lleiafrif ethnig mwyaf i fod mewn perygl o gael tân yn eu hadeiladau. Trafodwyd y data hwn gyda staff yn y Rhwydwaith Sector Gwirfoddol i Bobl Groendddu a chafodd ei ddefnyddio i greu achos busnes ar gyfer gwaith allgymorth gyda’r gymuned Tsieineaidd.

Mae gwaith Diogelwch Cymunedol wedi targedu cymunedau sydd â’r perygl mwyaf. Mae hyn yn cynnwys pobl hŷn a phobl anabl. Caiff staff eu hyfforddi a’u paratoi i roi cyngor a gwybodaeth arbenigol i’r grwpiau hyn o bobl.

Fideo recriwtio gweithredu cadarnhaol, sef Gyrfaoedd ar gyfer Menywod yn y Gwasanaeth Tân ac Achub

Ychydig iawn o weithgarwch recriwtio sydd wedi bod ond caiff mentrau gweithredu cadarnhaol eu datblygu’n barod ar gyfer ymdrechion recriwtio yn y dyfodol. Mae nifer o leoliadau profiad gwaith wedi cael budd o dreulio amser yn y pencadlys gan gynnwys nifer o fenywod o Women Connect First.

Mae’r broses gaffael wedi’i diwygio ac mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u prif ffrydio drwyddi draw. Mae tystiolaeth o arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ofynnol gan gyflenwyr ond mae hyn yn gymesur â maint y contract. Mewn ymdrech i annog y sector gwirfoddol i gyflwyno cynigion ar gyfer tendrau gwaith sector cyhoeddus, mae tendrau wedi’u hysbysebu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Gwnaethom gefnogi diwrnodau dathliadol rhyngwladol mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, y Rhwydwaith Sector Gwirfoddol i Bobl Groenddu, Canolfan Ragoriaeth LHTD a Stonewall Cymru.

Gwnaethom gyflwyno prosiect Llysgenhadon y Bobl.

Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl Cydraddoldeb yn 2009 i gynorthwyo â datblygu’r cynllun hwn. Cydnabuwyd gwerth y grŵp hwn gan staff a rheolwyr ac felly bydd y grŵp yn parhau i gyfarfod. Ymhlith y cynigion ar gyfer dyfodol y grŵp mae cynnal cyfarfodydd ar orsafoedd, cynnwys staff gorsafoedd yn fwy, gwahodd siaradwyr yn ogystal â goruchwylio cynnydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.

              Manylion Cyswllt


Carey Wood-Duffy – Swyddog Amrywiaeth

E-bost: C-wood-duffy@decymru-tan.gov.uk
Ffôn:
 01443 232749

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 27/6/2011
SWFRS