Ein Cynllun Lleihau Risg 2012/2013 

Amlinellodd ein Cynllun Lleihau Risg yn 2011/2012 naw prosiect allweddol y teimlwn byddai wedi ein galluogi i wella’n barhaus ein ffyrdd o weithio a chynnal safon uchel trosglwyddiad ein gwasanaeth tra’n cymryd i ystyriaeth y sialensau ariannol sy’n wynebu’r gyfundrefn. Fe ymgymerwyd ag ymarferiad ymgynghorol trylwyr â’n cymunedau, ein rhanddeiliaid a’n gweithwyr ar sail y prosiectau arfaethedig, ac o ganlyniad i wrando yn astud ar fynegiannau barn a leisiwyd, gwnaed newidiadau. Cwblhawyd dau o’r prosiectau hyn yn llwyddiannus, sef Darpariaeth Rheolwyr Tactegol Gweithredol a Gweithio’n Hyblyg.

Mae gennym ymrwymiad parhaus i drosglwyddo canlyniadau mewn perthynas â’r saith prosiect sy’n parhau ac, fel y cyfryw, yn enwedig yn wyneb y rhwystrau presennol ar adnoddau a chyllidebau, penderfynom barhau i ganolbwyntio ar gwblhau’r prosiectau hyn yn llwyddiannus a pheidio â chyflwyno unrhywbeth sy’n newydd ar hyn o bryd. Felly, mae’r tabl dilynol yn amlinellu pob prosiect parhaus yn ei dro gan grynhoi beth ddywedom y byddwn yn ei gyflawni yn wreiddiol a’n safbwynt wrth symud ymlaen.

Gan bod y prosiectau hyn yn barhaus, gwneir cynigion ac argymhellion pan gyflawnir adolygiad llawn gan bob un Bwrdd Rhaglen. Dim ond ar ôl dilyn proses ymgynghori a thrafodaeth llawn yn unig y cyflenwir unrhyw gynigion ac argymhellion

 

Prosiect

Yr hyn a nodwyd y byddwn yn ei gyflawni

Sefyllfa ar gyfer 2012/2013

Gwasanaeth Tân

Mae’r adolygiad cymhleth hwn yn ystyried y cyfraniad i’r cyhoedd a diogelwch ymladdwyr tân yn ôl pob gorsaf dân ac achub unigol.

 

Prosiect mwy hirdymor yn ddibynnol ar y canlyniadau ac unrhyw newidiadau arfaethedig o brosiectau eraill, felly mae’r gwaith yn parhau.

Disgwylir ei gwblhau yn ystod 2012/2013.

Peiriannau Pwmpio Eilaidd

 

Archwilio’r cyfraniad i ddiogelwch y cyhoedd ac ymladdwyr tân ac effeithiolrwydd cost pob peiriant pwmpio eilaidd gan gynnwys lleoliadau, data digwyddiad, cyfraddau galwadau a threfniadau criwio.

 

Mae gwaith yn ymwneud â’r prosiect hwn yn parhau.

Bydd yr anghysondebau criwio yn cael eu hadolygu a bydd argymhellion priodol yn cael eu gwneud.

Disgwylir ei gwblhau yn ystod 2012/2013.

Peiriannau arbenigol

Archwilio cyfraniad ac effeithiolrwydd cost pob peiriant arbenigol gan gynnwys lleoliadau, data digwyddiadau, cyfraddau galwadau a threfniadau criwio.

 

Bydd gwaith yn ymwneud â’r prosiect hwn yn parhau.

Disgwylir ei gwblhau yn 2012/2013.

Rheolwyr Canol a Strwythur Iwnifform Dyletswydd Dydd

 

Adolygiad o strwythurau sefydliadol yn cynnwys rheolwyr canol gweithredol a rheolwyr canol nad ydynt yn weithredol ar draws yr holl wasanaeth i sicrhau bod y strwythurau wedi’u cynllunio i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i’r cyhoedd.

 

Bydd y prosiect hwn yn cael ei ehangu i edrych ar swyddi rheolwyr goruchwyliol yn y sefydliad.

Disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod 2012/2013.

 

Strwythurau Sefydliadol

 

Dod o hyd i welliannau yn y prosesau busnes sy’n cefnogi gweithgareddau busnes craidd. Bydd yr adolygiad yn dod o hyd i gyfleoedd posib i wneud arbedion effeithlonrwydd a bod yn sail i newidiadau posib i strwythurau sefydliadol. Hefyd, cyflawni gwelliannau pellach o ran y berthynas allweddol rhwng y swyddogaethau cymorth a’r ddarpariaeth gwasanaeth ar y rheng flaen.

 

Bydd gwaith yn ymwneud â’r prosiect hwn yn parhau a bydd yr egwyddorion yn parhau i gael eu rhoi ar waith ar draws y sefydliad cyfan.

Does dim dyddiad cwblhau ar gyfer y prosiect hwn am y bydd y gwasanaeth yn edrych ar bob proses yn ei thro.

 

Lwfansau Goramser ac Allan o Oriau

 

Ystyried amrywiaeth o opsiynau ac argymhellion ar gyfer rheoli gweithgareddau yn wahanol gan sicrhau bod lwfansau goramser ac allan o oriau yn cael eu rhoi yn gyson a phan maent yn angenrheidiol yn ôl anghenion busnes yn unig.

 

Bydd gwaith yn ymwneud â’r prosiect hwn yn parhau.

Bydd £100,000 yn cael ei arbed yn ystod 2011/2012.

 

Systemau TGCh

 

Adolygu systemau TGCh craidd i ganfod seilwaith cyffredin gyda safonau a galluoedd cyffredin y gellir ei rhoi ar waith ar draws y sefydliad cyfan er mwyn integreiddio adrannau a dileu’r angen i ddyblygu cofnodi data, gwella cyfathrebu a sicrhau bod data yn cael ei ddal yn fwy effeithiol.

Mae’r prosiect hwn yn y cyfnod cwmpasu a bydd yn parhau yn ystod 2012/2013.

 

 

 

      Cysylltiadau Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 28/10/2011
SWFRS