Mae ein holl weithgareddau yn sail i gyflawniad llwyddiannus ein hamcanion ac rydym wedi canfod pum amcan gwella sy’n seiliedig ar bum thema y credwn y byddant yn ein helpu i gyflwyno ein Gweledigaeth a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Mae hyn hefyd yn helpu i roi ffocws eglur i’n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Mae ein pum amcan gwella yn sail i bopeth a wnawn a rhaid i bopeth a wnawn gysylltu ag o leiaf un o’r amcanion hyn. Maent yn darparu cyswllt ar draws ein fframwaith cynllunio gwasanaeth sy’n cynnwys cynlluniau cyfarwyddiaethau, cynlluniau adrannol a chynlluniau gorsaf gan sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu crynhau a’n bod yn gwneud y mwyaf o’n cyfleodd i wneud gwelliannau parhaus ac i ddiogelu’r cymunedau a wasanaethwn.
Yn yr adran hon, rydym yn adolygu ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf (2012/2013), pam y’i dewiswyd, sut yr ydym yn bwriadu eu cyflawni, sut byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo a pha ganlyniadau gellir eu disgwyl gan bob un o’n cymunedau amrywiol.
Amcan: Cysuro, addysgu a diogelu ein Cymuned rhag effeithiau tân, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd ac argyfyngau eraill pan fyddant yn digwydd.
Pam y dewiswyd yr amcan hwn?
Swyddogaeth sylfaenol o’n gwasanaeth yw hon sydd angen i ni barhau i wella er mwyn cwrdd â disgwyliadau cynyddol y cyhoedd. Yn ogystal, rydym yn cydnabod bod gan ein holl waith ataliol effaith gadarnhaol economaidd ar warchod bywydau ac eiddo.
Bwriadwn gyflawni hyn drwy:
Sut byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo?
Bydd ein cymunedau amrywiol yn teimlo’n dawelach eu meddwl, wedi’u gwarchod, eu haddysgu a’u cefnogi. Byddant yn fwy ymwybodol o risg o ganlyniad i’r gweithgareddau a ymgymrwyd gan yr Amcan hwn.
Pa ganlyniadau ddylai pob un o’n cymunedau amrywiol ddisgwyl?
Ein cymunedau amrywiol bydd y rhai mwyaf diogel i weithio ac i fyw ynddynt ac i ymweld â hwy yn unol â’n Gweledigaeth.