Amcanion Gwella y llynedd (2010/2011) 

Mae ein holl weithgareddau yn sail i gyflawniad llwyddiannus ein hamcanion ac rydym wedi canfod pum amcan gwella sy’n seiliedig ar bum thema y credwn y byddant yn ein helpu i gyflwyno ein Gweledigaeth a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Mae hyn hefyd yn helpu i roi ffocws eglur i’n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae ein pum amcan gwella yn sail i bopeth a wnawn a rhaid i bopeth a wnawn gysylltu ag o leiaf un o’r amcanion hyn. Maent yn darparu cyswllt ar draws ein fframwaith cynllunio gwasanaeth sy’n cynnwys cynlluniau cyfarwyddiaethau, cynlluniau adrannol a chynlluniau gorsaf gan sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu crynhau a’n bod yn gwneud y mwyaf o’n cyfleodd i wneud gwelliannau parhaus ac i ddiogelu’r cymunedau a wasanaethwn.

Yn yr adran hon rydym yn adolygu ein llwyddiant yn erbyn amcanion y llynedd (2009/2010); ein hamcanion ar gyfer eleni (2010/2011) a sut yr ydym yn bwriadu cyflawni’r rhain.

 Ein Cymunedau   Ein Pobl  Ein Hadnoddau  Ein Cyfundrefn  Cynaliadwyedd


Thema: Ein Cymunedau
Amcan : Lleihau marwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau a gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.

  • Fe weithredwyd a chefnogwyd Polisi yr Iaith Gymraeg a Mentrau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gennym, gan gynnwys ymgysylltu â grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill. Mynychodd nifer sylweddol o bersonau cyfrifol o blith cymunedau busnes y lleiafrifoedd ethnig ddigwyddiadau a drefnwyd yn arbennig, gan godi ‘u hymwybyddiaeth o ofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân. Effaith hyn fydd lleihau risg tân yn y cymunedau hynny sydd eisioes wedi profi’n anodd i’w cyrraedd.
  • Fe gyflawnwyd targed Gwasanaethol mewn argaeledd Ymladdwyr Tân Rhan Amser, sef 98%. Canlyniad y gwelliant hwn yw gweithrediad mwy prydlon ar safleoedd digwyddiadau, sy’n lleihau’r tebygrwydd o anafiadau i bobl a niwed i adeiladau, cerbydau neu’r amgylchedd.
  • Cafodd rai ardaloedd gweinyddiaeth Gorsafol eu hail-leoli. Galluogodd hyn gofnodiad cywirach o ddata sy’n ymwneud â digwyddiadau a diogelwch cymunedol, gan ganiatau pob gorsaf i ddadansoddi eu perfformiad a blaenoriaethu gweithgareddau’r dyfodol ar sail risg cymunedol. Canlyniad hyn fydd gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i bob cymuned.
  • Cyflawnwyd Asesiadau effaith cydraddoldeb ar ardaloedd gweinyddol Gorsafoedd. Canlyniad yr effaith hwn oedd bod cynnydd yn nefnydd ein hadnoddau gan y cyhoedd yng Ngorsaf Dân y Barri, gyda’r Ystafell Hamdden bellach yn cael defnydd fel Ystafell Gymunedol gan yr Heddlu a grwpiau lleol.
  • Rydym wedi gweithio gyda phobl sydd â nam clyw ac arweiniodd hyn at gynnydd mewn ffitio larymau mwg penodol.
  • Cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer pobl busnes o’r lleiafrifoedd ethnig er mwyn codi ymwybyddiaeth o anghenion diogelwch tân masnachol.
  • Wedi adnabod tueddiadau mewn ambell safle lle roedd angen gwelliant sylweddol yng nghydymffurfiaeth â’r Ddeddf Diogelwch Tân (FSO), rydym wedi cyflogi gweithiwr allgymorth Tseineaidd i gynorthwyo GTADC ymgysylltu â’r gymuned arbennig hon.
  • Profodd prosiect ‘Bernie’, a gafodd gydnabyddiaeth cenedlaethol, yn llwyddiannus tu hwnt mewn perthynas â delio â thanau gwair bwriadol drwy gyflwyno ystod o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn ogystal â chynyddu lefel addysg canlyniadau tanau gwair bwriadol a chynyddu patrolau tân mewn ardaloedd a effeithir o bosib.
  • Cynhaliwyd amryw o weithgareddau cymunedol yn natblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Sengl lle darparwyd cyfleusterau gofal plant fel bod pobl oedd â phlant ifanc yn medru cyfrannu.
  • Rydym wedi ymestyn ein cydweithrediad â’r 2 GTA eraill ar hyd ystod o weithgareddau Adnoddau Dynol. Canlyniad hyn yw lleihau costau  cyllidebau, sy’n golygu arbedion uniongyrchol i’r cyhoedd.

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 26/10/2011
SWFRS