Cynllun Gwella 2011/2012 

Croeso i’n Cynllun Gwella ar gyfer 2011/2012 lle rydym yn eich hysbysu o rai o’n prif cyflawniadau rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011 a’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012

Mae’r Cynllun Gwella ar gyfer 2011/2012 yn cwmpasu ein Cynllun Lleihau Risg 2012/2013 sy’n diweddaru’r sefyllfa mewn perthynas â’r Prosiectau a adnabyddwyd fel gweithgareddau gwella allweddol yng Nghynllun Lleihau Risg 2011/2012.

Er mwyn gwneud pethau yn haws i’w deall, rydym yn ceisio egluro i chi y gwahaniaethau y byddwch fel aelod o’r gymuned yn ei weld yn dilyn y gweithgareddau a weithredwyd gennym rhwng Ebrill 2010 a Mawrth 2011.

Fel y gwelwch wrth astudio nifer o’n gweithgareddau, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymdrechu’n barhaus i ddarparu gwasanaethau rhagorol i chi er mwyn cwrdd â’n Gweledigaeth o wneud De Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, i weithio ac i ymweld.

Mae rhai o’r gwelliannau a wnaethpwyd yn ofynnol gan Lywodraeth, ac eraill, yn syml, am ein bod yn credu taw rhain yw’r pethau cywir i’w gwneud.

Yn y ddau achos, gallwn eich sicrhau taw’r angen i’ch cadw mor ddiogel â phosib sydd ar flaen ein meddwl.

Gobeithiwn y cewch y Cynllun yn addysgiadol a chysurlon, a byddwn yn croesawu adborth gennych ar unrhyw agwedd o’r Cynllun y teimlwch yr hoffech gynnig sylwadau arnynt.

Cynlluniwyd y cynllun hwn ar gyfer y Rhyngrwyd, sy’n galluogi’r defnyddwyr lywio drwy’r wybodaeth a fynnir yn gynt ac yn haws nag sy’n bosib gydag unrhyw ddogfen mewn print. Fodd bynnag, os byddwch angen y cynllun mewn fformat gwahanol,   croeso i chi ein ffonio ar 01443 232000, neu cysylltwch drwy ebost.

Sut i adrodd yn ôl :
Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglyn â’r cynllun gwella hwn, croeso i chi ebostio, rhoi caniad i ni neu ysgrifennu atom.

 

            Sut i Adborth


Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y cynllun gwella, mae croeso i e-bost, ffonio neu ysgrifennu atom.

Ysgrifennu Atom

Uned Rheoli Perfformiad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

E-bostiwch Ni

E-bostiwch ni yn y cyfeiriad canlynol:
performiad@decymru-tan.gov.uk

Siarad â Ni

Ffoniwch ni ar 01443 232011 neu 01443 232348

      Cysylltiadau Defnyddiol

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 01/11/2011
SWFRS