Trosedd Tân 

Trosedd Tân a Llosgi Bwriadol.  Y weithred o gynnau tân mewn adeiladweithiau ac ar ardaloedd o dir yn fwriadol neu yn faleisus yw llosgi bwriadol. Yn ogystal â llosgi bwriadol, mae mathau ychwanegol o droseddau tân sy’n cynnwys galwadau ffug, ymosodiadau ar griwiau a rhwystro pan fydd un o’r gweithwyr argyfwng yn ateb galwad, neu yn paratoi i ymateb i ddigwyddiadau argyfwng.

Y llynedd, mynychwyd 10,113 o ddigwyddiadau Trosedd Tân.  Mae hyn yn gyfrifol am 42.93% o’r holl ddiwgyddiadau a fynychwyd gennym. Gellir dosrannu rhain i’r categorïau canlynol:

  • Tanau Bwriadol: 9570 digwyddiad sef 81.36% o’r holl danau.
  • Galwadau Ffug:  540 digwyddiad
  • Ymosodiadau ar Griwiau: 35  digwyddiad

Mae pris llosgi bwriadol i gymunedau De Cymru yn dod i £7 miliwn bob blwyddyn yn ardal De Cymru. Nid yw’r lefel hon o losgi bwriadol yn gynaliadwy yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ac mae’r Uned Troseddu Tân yn gwneud popeth posib i leihau’r broblem hon ar gyfer ein cymunedau.

Cynnau tân yn fwriadol(Llosgi bwriadol)
Mae GTADC yn gyfrifol am ddelio â phob mater yn ymwneud â chynnau tanau’n fwriadol a deall pam ei fod yn digwydd, darganfod y rhesymau dros losgi bwriadol, dod o hyd i ble gallai’r tanau hyn ddigwydd, a chynorthwyo’r Heddlu gydag arestio’r bobl sy’n gyfrifol.

Galwadau Ffug
Pob blwyddyn mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn mynychu ymron i 600 o alwadau ffug. Y ffaith brawychus yw y gwneir nifer o’r galwadau 999 hyn gan oedolion.

Fodd bynnag, bydd nifer y galwadau ffug a dderbynir gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yn lleihau dros gyfnod Gwyliau’r Haf, yn awgrymu bod nifer fawr o’r galwadau o hyd yn cael eu hachosi gan blant ysgol.

Mae galwadau ffug neu ‘Galwadau Ffug Maleisus’ fel y’i hadnabyddir o fewn y Gwasanaethau Argyfwng yn drosedd cyfreithiol a gellir dirwyo pobl sy’n troseddu dro ar ôl tro neu hyd yn oed eu carcharu.

O Ionawr y 1af 2010 hyd Rhagfyr yr 31ain 2010 derbyniodd GTADC 2151 o alwadau ffug. Heriwyd 420 ohonynt gan staff Rheoli ac o ganlyniad, ni fynychodd y Criwiau Tân y digwyddiadau hynny. 1193 oedd cyfanswm y galwadau gadawedig. Fodd bynnag, o’r 538 o alwadau ffug a fynychwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, gwnaed 159 (30%)yn ystod cyfnod gwyliau’r haf (01/06/10 hyd 10/08/10).

Ers Ionawr y 1af 2011 mae GTADC wedi derbyn 1225 o alwadau ffug. Heriwyd 334 ohonynt gan Staff Rheoli, ac o ganlyniad ni fynychodd y Criwiau Tân y digwyddiadau hynny. 617 oedd cyfanswm y galwadau gadawedig. Fodd bynnag, o’r 274 o alwadau ffug a fynychwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, gwnaed 83 (29%) yn ystod cyfnod gwyliau’r haf (01/06/11 hyd 10/08/11)

Fel rhan o’n ymgyrch ‘Gwaed ar eu dwylo”, bydd GTADC yn rhoi galwadau ffug go iawn a wnaed i’r Gwasanaeth ar wefan yr ymgyrch ac yn eu diweddaru fesul ychydig o wythnosau. 

Mae gwneud galwad o’r fath yn drosedd cyfreithiol.

Ymosodiadau ar griwiau
Gellir disgrifio Ymosodiadau ar Ymladdwyr Tân fel cam-drin geiriol i gam-drin corfforol difrifol ac, yn anffodus, caiff ei weld yn rhy aml ar hyd a lled y DU. Gwaetha’r modd, mae Ymladdwyr Tân GTADC hefyd yn cael eu cam-drin.

Attacks on crews graph

  

 

 

2006/2007

2007/2008

2008/2009

2009/2010

2010/2011

Nifer yr ymosodiadau

39

47

31

39

35

O ganlyniad i gydweithio agos gydag asiantaethau cymheiriol ac adeiladu perthynas gyda’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, llwyddodd GTADC  leihau nifer yr ymosodiadau ar griwiau i 35 ar gyfer y llynedd, o’i gymharu â mwyafswm o 47 ym 2007/2008.

Daeth Deddf Gweithwyr Argyfwng (Rhwystrau) 2006 i rym yn Chwefror drwy waith Alan Williams AS. Mae hyn yn dilyn ymgyrchu proffil uchel gan Wasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU oedd yn amlygu yr ymosodiadau annerbyniol y bu’n rhaid i griwiau a gweithwyr gwasanaethau argyfwng eraill wynebu yn gyson. Cafwyd 39 o ymosodiadau a gofnodwyd ar griwiau tân yn Ne Cymru yn ystod 2006.

Mae’r Ddeddf yn cwmpasu rhwystro pan fydd gweithiwr argyfwng yn ymateb i amgylchiadau argyfwng neu yn paratoi i wneud hynny(e.e. gwisgo siwtiau diogelwch, atodi piben ddŵr i hydrantau) a’r rheini sy’n ymateb i amgylchiadau pan fyddant yn credu bod argyfwng yn digwydd neu ar fin digwydd. Mi fydd hi’n drosedd hyd yn oed os na fydd yr argyfwng yn digwydd e.e. os bydd grŵp o bobl ifanc yn galw’r gwasanaeth pan nad oes argyfwng ac yna yn eu rhwystro, maent yn euog o’r drosedd o hyd. Yn ogystal, yn ôl y Ddeddf, mae’n drosedd i rwystro neu lesteirio y gweithwyr argyfwng cynorthwyol hynny sy’n ymateb i amgylchiadau argyfwng. e.e. yn mofyn cyfarpar neu yn cyfeirio traffig yn ystod digwyddiad.

NI chwmpasir galwadau ffug fel rhan o’r ddeddfwriaeth oherwydd fe’u cwmpasir o fewn deddfwriaeth wahanol.

Mae rhwystro a llesteirio yn cwmpasu nifer o bethau megis parcio lle na all gerbyd argyfwng basio a pheidio â symud, gwneud niwed i gerbydau neu offer neu trosglwyddo gwybodaeth ffug ar leoliad digwyddiad argyfwng a all gamarwain gweithwyr argyfwng.

Y gosb eithaf yw dirwy lefel 5, sef £5000.

Ni chwmpasir ymosodiadau ar weithwyr argyfwng oherwydd bod mesurau cynhwysfawr mewn bodolaeth er mwyn delio â hyn, e.e. ymosodiad cyffredin hyd wir niwed corfforol. Mae ymosod ar y sawl sy’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd yn ffactor gwaethygol difrifol yn nhermau canllawiau dedfrydu.

      Cysylltiadau Defnyddiol
Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 31/10/2011
SWFRS