Strategaeth Ariannol a Chyllideb Refeniw  

Strategaeth Ariannol

Mae cofrestr risg corfforaethol Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn enwi dosraniad a defnydd ei adnoddau o fewn yr hinsawdd economaidd presennol fel un o’r risgau mwyaf blaenllaw sy’n wynebu’r Awdurdod mewn perthynas â chynnal trosglwyddiad gwasanaeth i’r cyhoedd.

Un o’r dulliau a ddefnyddir gan yr Awdurdod Tân ac Achub i wynebu’r risg yw i adolygu a diweddaru’r Cynllun Ariannol Canoldymor ar gyfer y cyfnod 2011-15. Mae’r cyfnod o ansicrwydd a chythrwfl ariannol yn parhau, gyda chwyddiant ar gynnydd a’r datgyniadau diweddaraf ynglyn â chodiadau yng nghyfraniadau pensiynau, ynghyd â’r cefndir y bydd ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i ddod o dan bwysau am flynyddoedd i ddod. 

Mae’r Cynllun Ariannol Canoldymor yn cefnogi Cynllun Lleihad Risg statudol yr Awdurdod Tân ac Achub ac yn darparu cyd-destun ariannol i’r gweithredoedd a gynhwysir ynddo. Mae’n arddangos sut byddai modd defnyddio’r adnoddau orau er mwyn cefnogi blaenoriaethau yr Awdurdod Tân ac Achub, ac yn llifo i mewn i gynlluniau adrannol y gwasanaeth er mwyn sicrhau y cynhwysir yr holl ymdrechion i drosglwyddiad gwasanaeth effeithiol ac effeithlon. Gwnaed hyn o fewn cyd-destun amcangyfrifon cyfredol o’r rhwystrau cyllidebol y bydd yr Awdurdod yn wynebu dros y dair blynedd nesaf. Yn gryno, maent fel a ganlyn:

Budget Base Graph

 

2012/2013

2013/2014

2014/2015

Dadansoddiad Achos Gorau

£72.027.798

£73,755,677

£75,968,347

Dadansoddiad Achos Canolig

£71,316,222

£72,313,868

£73,760,146

Dadansoddiad Achos Gwaethaf

£70,604,646

£70,886,292

£71,595,155

Roedd y Cynllun Lleihau Risg hwn a Chynllun Ariannol Canoldymor 2010 yn cynnwys arbedion rhagamcanol o nifer o ffynonellau prosiect ar hyd nifer o flynyddoedd. Mae dod â’r pwysau cyllidebol, arbedion prosiect a blaenoriaethau cyfundrefnol ynghyd yn cynhyrchu’r bwlch cyllidebol dichonadwy neu’r gwarged dichonadwy ar gyfer yr achos gwaethaf, yr achos canolradd a’r achos gorau ar hyd y dair blynedd sy’n dilyn yn ôl y darlun isod.

Budget Gap Graph

 

2012/2013

2013/2014

2014/2015

Dadansoddiad Achos Gorau

£727,791

£1,692,839

£2,989,191

Dadansoddiad Achos Canolig

£16,215

£251,030

£780,990

Dadansoddiad Achos Gwaethaf

-£695,361

-£1,176,547

-£2,164,991

 

 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 27/10/2011
SWFRS