Ers 1 Ebrill 1996, mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn gyfrifol am Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae’r Awdurdod Tân yn cyfarfod nifer o weithiau’r flwyddyn ac yn cynnwys 24 cynghorydd o’r deg awdurdod lleol gwreiddiol a gyfunwyd i’w ffurfio.
Penderfynir cyfansoddiad yr Awdurdod Tân gan faint y gynrychiolaeth etholiadol o fewn pob awdurdod lleol, a’r cymesuroldeb gwleidyddol ar draws yr ardal gyfunol.
Yn y cyfarfod blynyddol, mae’r Awdurdod yn penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer yr Awdurdod ac Cadeirydd, Is-Gadeiryddion ac Aelodau ei Bwyllgorau.
Ymhlith y nifer o swyddogaethau sydd gan yr Awdurdod, mae’n pennu’r Gyllideb Flynyddol, cytuno ar y lefelau o bersonél a cherbydau, cymeradwyo cynlluniau, polisïau a strategaethau’r Gwasanaeth, ac yn cymeradwyo cyfansoddiad unrhyw Bwyllgor, Is-Bwyllgor, Grwpiau Ymgynghorol a Grwpiau Tasg.
Mae swyddogaethau craidd yr Awdurdod Tân wedi eu gosod allan yn y Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn gyffredinol, y rhain y:
Mae blaenoriaethau ac amcanion yr Awdurdodau Tân yng Nghymru wedi eu gosod allan yn nogfen Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub.
Mae’r cyfrifoldeb dros reolaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y Prif Swyddog Tân sy’n cael ei gefnogi gan bum Prif Swyddog a Bwrdd Dilyniant Corfforaethol sy’n creu polisïau.