Gweledigaeth a Chenhadaeth 

Gweledigaeth yr Awdurdod Tân yw Gwasanaeth Tân ac Achub sydd:

  • yn rhagweithiol wrth rwystro tanau a risgiau eraill, yn hytrach nag ymateb i danau yn unig.
  • yn gefnogol i agenda ehangach y Llywodraeth o safbwynt cynhwysiad cymdeithasol, adnewyddiad cymdogaethau a lleihau troseddau
  • Â sefydliadau effeithiol sy’n cefnogi ei swyddogaeth a’i bwrpas
  • Â rheolaeth dda ac effeithiol
  • Sy’n ymroi i ddatblygu ac addasu o fewn amgylchiadau newidiol, gan gynnwys y bygythiad a ddaw wrth derfysgaeth
  • Yn chwarae swyddogaeth bositif yn natblygiad y gymuned
  • Yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gadarnhaol a chynaliadwy i safonau byw yn lleol
  • Yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill er mwyn sicrhau lles yr ardal a’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â hi
  • Yn ddealledig ac yn uchel ei barch ymysg pobl


Cenhadaeth yr Awdurdod Tân:

  • Creu amgylchedd lle gall pobl De Cymru ddysgu am risgiau tân a sut gellir lleihau y risgiau hyn
  • I gynnal a pharhau Gwasanaeth Tân ac Achub argyfwng rhagorol sy’n medru ymateb ar unwaith, sy’n gymwys iawn ac yn dra hyfforddiedig i achub bywydau a diffodd tanau yn brydlon a diogel
  • I ddefnyddio ein sgiliau a’n hoffer i leihau argyfyngau eraill ac ymateb i anghenion pobl sydd mewn perygl, ac i ddarparu cynhaliaeth dyngarol lle bynnag y medrwn

                 Manylion Cyswllt

 

Cyfeiriad
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Fforest View
LLANTRISANT
CF72 8LX

Ffôn:  01443 232000
Ffacs: 01443 232180
E-Bost:
GTDC@decymru-tan.gov.uk

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 10/10/2011
SWFRS