Gwrandewch ar alwadau ffug maleisus yn eich ardal
Apeliwn atat i ffonio Fire Crime Unit on 0800 731 7287 os oes gen ti unrhyw wybodaeth am y galwyr.
Derbyniwyd pob un o’r galwadau yma gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae rhai yn cael eu herio gan Weithredwyr Rheoli Tân, ond mewn nifer fawr o achosion danfonir Criwiau Tân i’r galwadau ffug am gymorth.
Mae’r galwyr ffug yn achosi perygl bywyd. Mae’n bosibl y bydd oedi o ychydig o funudau i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ymateb i ddigwyddiadau go iawn yn nhrefi a phentrefi De Cymru os yw’r Gwasanaeth wrthi yn ymateb i alwad ffug.
Bob tro y bydd Ymladdwyr Tân yn cael eu galw mas i ddigwyddiad ffug, nid dim ond cost miloedd o bunnoedd i drethdalwyr fydd hi. Hefyd, mae’n rhoi bywydau mewn perygl gan fydd Ymladdwyr Tân yn brysur yn ymateb i alwad ffug yn lle mynychu argyfwng go iawn – er enghraifft, person wedi’i ddal mewn tŷ ar dân neu tu fewn i gar sydd wedi malu, sefyllfaoedd lle mae perygl bywyd.
Galwadau Ffug
Fideo galwad ffug maleisus
Ffeithiau a Ffigurau
Blog
Posteri'r Ymgyrch