Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn apelio at y cyhoedd am gymorth i ddal galwyr ffug.
Bob blwyddyn, bydd GTADC yn mynychu bron 600 galwad ffug. Y gwir cywilyddus yw bod llawer iawn o’r galwadau 999 yma’n cael eu gwneud gan oedolion.
Mae gwneud galwadau ffug, neu ‘Larwm Ffug Maleisus’ fel y cânt eu hadnabod yn y Gwasanaethau Brys, yn drosedd a gall pobl sy'n troseddu dro ar ôl tro dderbyn dirwy neu fynd i’r carchar hyd yn oed.
Dyddiad: 16eg o Awst 2011
Lleoliad: Saint Davids 2, Caerdydd
I ddangos sut all gwneud galwad ffug ‘rhoi gwaed ar ddwylo’ y galwr ffug yn ogystal â rhoi bywydau mewn perygl, bydd GTADC yn dosbarthu pethau berwi wyau â hylif ‘coch fel gwaed’y tu fewn iddynt, yn lansiad yr ymgyrch sy’n digwydd ar 16eg o Awst 2011.
Trwy wneud hyn mae GTADC yn gobeithio dangos mai bob eiliad y bydd y Gwasanaeth ym ymateb i alwad ffug yn eiliad arall mae sylw yn cael ei dynnu i ffwrdd o ymateb i argyfwng go iawn – sefyllfa all arwain at golli gwaed a cholli bywydau.
Galwadau Ffug
Fideo galwad ffug maleisus
Ffeithiau a Ffigurau
Blog
Posteri'r Ymgyrch