Ffeithiau a Ffigurau 

Bob blwyddyn, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynuchu bron 500 galwad ffug. Mae nifer fawr o’r galwadau yma’n cael eu gwneud yn ystod misoedd yr Haf. Y gwir cywilyddus yw bod llawer iawn o’r galwadau 999 yma’n cael eu gwneud gan oedolion.

Fodd bynnag, mae nifer y galwadau ffug mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn eu derbyn yn cynyddu yn ystod gwyliau’r haf, sy’n awgrymu bod nifer o’r galwadau yn cael eu gwneud gan blant ysgol.

Mae galwadau ffug, neu ‘galwadau ffug maleisus’ fel y cânt eu galw gan y Gwasanaethau Brys, yn dramgwydd troseddol ac fe all pobl sy'n troseddu dro ar ôl tro gael dirwy neu hyd yn oed ddedfryd o garchar.

O 1 Ionawr 2010 – 31 Rhagfyr 2010 derbyniodd GTADC 2,151 galwad ffug. Cwestiynwyd 420 o’r rhain gan y staff Rheoli ac ni aeth y Criwiau Tân allan, a rhoddwyd y ffôn i lawr ar 1,193 o alwadau. Fodd bynnag, o’r 538 galwad ffug lle aeth y Gwasanaeth Tân ac Achub allan roedd 159 (sef 30%) ohonynt yn ystod gwyliau’r haf*. (01/06/11 hyd 10/08/11)

Ers 1 Ionawr 2011 mae GTADC wedi derbyn 1,225 galwad ffug. Cwestiynwyd 334 o’r rhain gan y staff Rheoli ac ni aeth y Criwiau Tân allan, a rhoddwyd y ffôn i lawr ar 617 o alwadau. Fodd bynnag, o’r 274 galwad ffug lle ddaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub allan roedd 83 (sef 29%) ohonynt yn ystod gwyliau’r haf** (** 01/06/11 hyd 10/08/11)

Galwadau Ffug Maleisus   01-06-11 i 01-09-11

  Awdurdod Unedol

Cyfanswm

Blaenau Gwent

4

Pen-y-bont ar Ogwr

6

Caerffili

6

Caerdydd

27

Merthyr Tudfil

4

Sir Fynwy

2

Casnewydd

13

Rhondda Cynon Taf

6

Torfaen

11

Bro Morgannwg

4

  Cyfanswm

83


         Galwadau Ffug

       
         Ffeithiau a Ffigurau
         


         Blog
 
                 


         Posteri'r Ymgyrch
                  
 

Tudalen Wedi Ei Diweddaru Ar 16/8/2011
SWFRS